Uwch Swyddog Cyswllt Cartref - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

2 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**

Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn cael eu harwain yn strategol gan Uwch Seicolegydd Addysg ac yn cynnwys timau sy'n darparu rhaglenni rhianta grwp ac unigol ac ymyriadau. Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn rhan o Cymorth Cynnar Caerdydd.

Mae Rhieni yn Gyntaf yn wasanaeth rhianta a arweinir gan seicoleg o fewn Cymorth Cynnar Caerdydd. Caiff y tîm ei arwain gan Seicolegwyr Addysg Arbenigol a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo'r Seicolegwyr Addysg Arbenigol/rheolwyr tîm i weithredu rhaglen rhianta yn y cartref a arweinir gan seicoleg ar gyfer rhieni plant bach, plant a phobl ifanc o 0 i 18 oed, ledled y ddinas, trwy gynnal a goruchwylio ymyriadau wedi eu targedu ac o fewn terfynau amser, a fydd wedi eu llunio gan y Seicolegydd Addysg Arbenigol.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am ein Gwasanaethau Rhianta ar-lein:
Rhianta Caerdydd Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd: Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd )

Rydym hefyd yn postio ar ein tudalennau Twitter a Facebook - chwiliwch am Cardiff Parenting - Rhianta Caerdydd i gael gwybod mwy.

Ar ôl gweithio gyda ni, mae rhieni wedi dweud:
"_Mae'r sgyrsiau, y cymorth a'r syniadau wedi helpu. Roeddwn i'n poeni am sut i ddelio â sefyllfaoedd ond tawelwyd fy meddwl pan eglurodd sut mae ymennydd plant yn gweithio a'i bod yn iawn i deimlo'n ddig. Ni sylweddolais erioed fod y ffordd roeddwn yn arfer ymateb i ymddygiad y plant yn ychwanegu at y dramâu. Nawr rwy'n gwybod bod angen lle ac amser ar blant hefyd i fynegi eu teimladau. Mae pethau'n well erbyn hyn. Rwy'n teimlo bod y plant yn fy mharchu i a'm penderfyniadau fel rhiant."_

**Am Y Swydd**

Bydd yr Uwch Swyddog Cyswllt Cartref yn:

- gweithredu rhaglen rhianta yn y cartref ar sail seicoleg ar gyfer rhieni plant bach, plant a phobl ifanc o 0 i 18 oed, ledled y ddinas, trwy gynnal a goruchwylio ymyriadau wedi eu targedu ac o fewn terfynau amser, a fydd wedi eu llunio gan y Seicolegydd Addysg Arbenigol.
- Bod yn rheolwr llinell uniongyrchol i Swyddogion Cyswllt Cartref (hyd at 5).

Eglurir prif rôl yr USCC yn fanylach yn y swydd ddisgrifiad sydd ynghlwm.

Cewch eich cefnogi gyda chyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus. Byddwch yn cael ffôn, cyfrifiadur personol a'r adnoddau a'r cymorth bydd eu hangen arnoch i deimlo'n hyderus ac yn ddiogel yn eich rôl.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am ymgeisydd a all gynnig y canlynol:

- Gwybodaeth gynhwysfawr o anghenion datblygiadol plant a/neu bobl ifanc.
- Gwybodaeth fanwl am wahanol safbwyntiau, dulliau ac ati o ran rhianta cadarnhaol, gwella perthnasoedd cadarn o fewn teuluoedd a'r effaith ar ddatblygiad plant.
- Profiad helaeth o ddefnyddio eich gwybodaeth, sgiliau a barn i gynllunio, cyflawni a chwblhau ymyriadau rhianta â theuluoedd i weithredu newid i chi'ch hun ac i eraill gyda lefel o annibyniaeth.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol yn Gymraeg yn hanfodol.

Am fanylion llawn, edrychwch ar fanyleb y person ynghlwm.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae hon yn swydd dros dro tan fis 31 Mawrth 2024. Mae ein darpariaeth gwasanaeth yn amodol ar arian grant Llywodraeth Cymru.

Mae'r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i'r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy'n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy'n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Dylai ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael caniatâd cyn ymgeisio trwy lenwi ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr/Dirprwy Gyfarwyddwr/Prif Swyddog perthnasol neu uwch swyddog arall a enwebwyd, nad ydynt ar raddfa is na RhG2, neu'r Pennaeth/Corff Llywodraethu yn achos staff ysgolion, sy'n gallu cymeradwyo ceisiadau.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02758

More jobs from Cardiff Council