Cynrychiolydd Gwasanaeth Cwsmeriaid - Barry, United Kingdom - Vale of Glamorgan Council

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Amdanom ni**
Mae Cyswllt Un Fro yn gwahodd ceisiadau am Gynghorwyr Gwasanaeth Cwsmeriaid i ymuno â'n canolfan gyswllt brysur yn y Barri. Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â'n tîm sefydlog, delio ag amrywiol ymholiadau sy'n cwmpasu llawer o wahanol wasanaethau yn y cyngor. Rydym yn chwilio am aelodau tîm brwdfrydig sy'n ffynnu wrth ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid eithriadol mewn amgylchedd amrywiol a phrysur

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion am gyflog: Gradd 4, PCG 5 - 7 £21,575 - £22, 369 y.f. / pro rata

Diwrnodau / Oriau Gwaith: Dydd Llun - Dydd Gwener 37 awr yr wythnos

Prif Weithle: Swyddfeydd Dinesig, Canolfan Hamdden y Barri a thrwy gydol Bro
Morgannwg

**Disgrifiad**:
Cyswllt Un Fro yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr holl wasanaethau Cyngor a gynigir i'r cyhoedd a chwsmeriaid eraill Bro Morgannwg. Mae ein timau yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac yn cyfeirio ac yn atgyfeirio cwsmeriaid ar gyfer asesiad pellach ar draws ystod o sianeli cyfathrebu, ond yn bennaf ar y ffôn a thros e-bost.

**Amdanat ti**

Bydd angen i chi feddu ar y canlynol:

- Profiad o weithio mewn amgylchedd canolfan alwadau/gwasanaeth cwsmeriaid
- Sgiliau cyfrifiadur da
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Y gallu i gofnodi gwybodaeth yn gywir
- Parodrwydd i weithio fel aelod o dîm prysur

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Angen Gwiriad DBS: Dim

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaedig am wybodaeth bellach.

Job Reference: RES00323

More jobs from Vale of Glamorgan Council