Dadansoddwr Perfformiad Gwasanaeth - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

2 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy'n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd.

Mae Tîm Ystadegau Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor yn cynnig y cyfle i ymuno â nhw fel Dadansoddwr Perfformiad Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaethau Cwsmeriaid.

Mae'r Tîm Ystadegau a Chymorth yn darparu ystadegau ar gyfer pob maes o fewn y timau gwasanaethau cwsmeriaid a digidol, yn amrywio o brif ganolfan gyswllt Cyngor Caerdydd (C2C) i'r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu rydym yn ei redeg ar hyn o bryd ar ran Llywodraeth Cymru.

Ni yw'r arbenigwyr blaenllaw ar Microsoft PowerBI o fewn y cyngor a rhoddir hyfforddiant llawn ar y pecyn Microsoft newydd hwn. Gellir ennill achrediad PowerBI wrth weithio yn y tîm, sy'n sgil werthfawr iawn yn y sector ystadegau a delweddu data.

**Am Y Swydd**

Yn y rôl hon fel Dadansoddwr Perfformiad Gwasanaeth byddwch yn cefnogi ein gwasanaeth ac yn dysgu i ddatblygu ystod eang o sgiliau a phrofiad yn y gweithle, yn ogystal â meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o'r gwaith a'r cyfrifoldebau sy'n rhan o weithio mewn Llywodraeth Leol yng Nghaerdydd. Byddwch yn ennill profiad amhrisiadwy yn y meysydd canlynol:

- Gweithio'n rhan o dîm
- Defnyddio Pecynnau Microsoft Office
- Cynhyrchu ystadegau i fesur perfformiad
- Defnyddio meddalwedd PowerBI ryngweithiol gyfoes Microsoft
- Hyfforddiant llawn ar becynnau meddalwedd y gellir ei gymhwyso at rolau eraill
- Llinell gyntaf cefnogaeth TG i ganolfan gyswllt brysur
- Achrediad rheoli prosiectau drwy Academi Cyngor Caerdydd
- Sgiliau dadansoddi, rhagamcanu a chyflwyno data.
- Cyfleoedd rhwydweithio trwy grwpiau gwaith a chyfarfodydd.

Bydd y tîm yn eich helpu a'ch annog i ddatblygu yn y rôl a byddwch yn cael eich annog i gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau. Cewch eich goruchwylio a'ch hyfforddi yn y swydd a bydd gennych fentor penodol i'ch cefnogi i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol gan ddefnyddio dull cadarnhaol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.

Rydym yn symud i weithio ar-lein a gartref a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu'r sgiliau i gefnogi hyn. Pan fydd angen gweithio gartref, byddwch yn cael yr offer angenrheidiol, ond bydd angen i chi drefnu eich cysylltiad eich hun â'r rhyngrwyd.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy'n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i'n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.

Mae ein Dadansoddwyr Perfformiad Gwasanaeth yn ennill profiad gwerthfawr wrth weithio i'r Cyngor mwyaf yng Nghymru.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
- Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl ar ôl darllen y disgrifiad swydd, cysylltwch â Mal Perry ar

Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Dylech deilwra eich cais i'r rôl a nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf. Peidiwch â chyflwyno CV gan nad yw'n debygol o roi'r wybodaeth sydd ei hangen. Darllenwch y canllaw ar sut i wneud cais.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nodwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw ar Wneud Cais
- Gwneud cais am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd

Job Reference: RES01132

More jobs from Cardiff Council