Cynrychiolydd Gwasanaethau Cwsmeriaid a Swyddog - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

3 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Rhentu Doeth Cymru yn wasanaeth o fewn Cyngor Caerdydd, er mwyn gweinyddu gofynion Rhan 1 Deddf Tai (Cymru) 2014, sy'n rheoleiddio tai sector rhent preifat yng Nghymru drwy ofyn i landlordiaid gofrestru ac un ai ddod yn drwyddedig eu hunain neu roi cyfarwyddyd i asiant trwyddedig i ymgymryd â thasgau gosod a rheoli eiddo. Sefydlwyd y gwasanaeth ym mis Tachwedd 2015.

Mae Rhentu Doeth Cymru yn elwa ar we-systemau a ddyluniwyd ar gyfer y cwsmer, technoleg ffôn canolfannau cyswllt, trefniadau partneriaeth gyda'r 22 o awdurdod lleol ar draws Cymru, a chymorth ymgyrch farchnata gynhwysfawr dan arweiniadn Llywodraeth Cymru.
**Am Y Swydd**
Rydym am recriwtio nifer o unigolion brwdfrydig i ymuno â'n tîm fel Swyddogion Trwyddedu yng Nghanolfan Gyswllt Rhentu Doeth Cymru i gynorthwyo â'r gwaith o roi gwasanaeth o safon uchel i gwsmeriaid dros y ffôn ac e-bost.

Mae gofyn i Swyddogion Trwyddedu gefnogi a chynghori amrywiaeth eang o gwsmeriaid, yn fewnol ac yn allanol. Bydd deiliaid y swydd yn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn derbyn gwasanaeth cwsmeriaid o'r lefel uchaf a bod eu hymholiadau'n cael eu datrys ar y pwynt cyswllt cyntaf lle y bo'n bosibl.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn awyddus i recriwtio nifer o unigolion brwdfrydig i ymuno â'n Tîm Canolfan Gyswllt fel Swyddogion Gwasanaethau Cwsmeriaid i gynorthwyo i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel i'n defnyddwyr gwasanaeth dros y ffôn ac e-bost mewn amgylchedd Canolfan Gyswllt.

Oherwydd y cyfyngiadau presennol, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu gweithio gartref mewn man gweithio addas, gan sicrhau bod cyfrinachedd yn cael ei gynnal bob amser tra'n cydymffurfio â'r holl reoliadau iechyd a diogelwch perthnasol, gan gynnwys ymwybyddiaeth o ofynion rheoliadau Offer Sgrin Arddangos
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae'r rôl hon wedi'i lleoli yn y swyddfa yn Neuadd y Sir, Caerdydd. Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu

Dylai'r ymgeiswyr llwyddiannus allu cyfathrebu'n rhygl yn Gymraeg i Lefel 4 - Uwch

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_._

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: RES00822

More jobs from Cardiff Council