Aseswr Adeiladu - Cardiff, United Kingdom - Cardiff and Vale College

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Swydd Wag Fewnol / Allanol**

**Ref: 11576**

**Teitl y Swydd: Aseswr Adeiladu / Sicrwydd Ansawdd Mewnol**

**Contract: Amser llawn, parhaol**

**Cyflog: £32,283 - £34,433 per annum**

**Lleoliad: Coleg Caerdydd a'r Fro**

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a fydd yn cefnogi dysgwyr yn y gweithle i gyflawni fframweithiau perthnasol. Bydd y rôl yn cynnwys asesu dysgwyr ar gymwysterau adeiladu hyd at lefel 3. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi'i (l)leoli ar ein Campws Canol Dinas ond bydd disgwyl iddo/iddi fynd i gampysau eraill yn ôl yr angen.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am asesu nifer o ddysgwyr ac am eu dilyniant, i gael cyflawni'r dangosyddion perfformiad allweddol penodol a fydd yn cynnwys recriwtio dysgwyr, monitro eu dilyniant ac ennill y cymhwyster er mwyn cwrdd â gofynion y contract.

Ymhlith y cyfrifoldebau eraill bydd:

- Sicrhau cydymffurfiad â gofynion y contract ym mhob rhan o siwrnai'r dysgwyr a fydd yn cynnwys, ond a fydd heb fod yn gyfyngedig i archwilio a monitro iechyd a diogelwch, profion WEST, a gwaith papur cofrestru dysgwyr a dysgwyr yn gadael, ac ar adolygu rhaglenni.
- Cyflawni IQA (Sicrwydd Ansawdd Mewnol) yn unol â gofynion y Corff Dyfarnu a chyfarwyddyd y Rheolwr Llinell. Bydd y dyletswyddau hyn yn cynnwys mynd i gyfarfodydd sicrhau ansawdd.
- Ymgysylltu â chyflogwyr pan fyddwch ar ymweliadau i gael hyrwyddo dysgu yn y gweithle. Ymdrin ag awgrymiadau ac ymholiadau mewn modd amserol.
- Datblygu llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol y dysgwyr.
- Nid yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ond byddent yn ddymunol ar gyfer y rôl hon.

Rhaid gwneud cais drwy ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Ni dderbynnir ceisiadau CV. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau yn y Saesneg. Os byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os byddwch am gynnal y cyfweliad a'r broses asesu yn Gymraeg.

**09/02/2024 yw'r dyddiad olaf i dderbyn ffurflenni cais cyflawn am 12:00**

Bydd cael swydd yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro yn amodol ar wiriad cyfredol dilys y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Bydd rhaid boddhau'r amod hwn yn rhan o'ch contract cyn dechrau gweithio. Mae gweithdrefn y Coleg ynglyn ag Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

Er mwyn i chi fod yn gallu gweithio yma, rhaid i ni dderbyn geirda oddi wrth ddau ganolwr, gan gynnwys un oddi wrth eich cyflogwr presennol neu eich cyflogwr mwyaf diweddar. Byddwn yn cysylltu â'r rhain pan wneir y penodiad.

Mae'r swydd yn amodol ar gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

**Bydd rhaid boddhau'r amodau hyn yn rhan o'ch contract cyn dechrau gweithio.**

Rydym yn ymrwymedig i recriwtio a chadw pobl ag anabledd ac rydym yn gyflogwr sydd â hyder mewn pobl ag anabledd.

More jobs from Cardiff and Vale College