Swyddog Cyswllt Gofal Plant - Barry, United Kingdom - Vale of Glamorgan Council

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Amdanom ni**

Mae Bro Morgannwg yn croesawu ceisiadau o fewn ei Rhaglen Dechrau'n Deg. Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael mewn ardaloedd penodol i gefnogi pob teulu i roi Dechrau'n Deg mewn bywyd i blant 0-3 oed Nod y cynllun yw darparu gwasanaethau cymorth dwys i blant a'u teuluoedd.

Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar hyrwyddo iaith, sgiliau gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol, datblygiad corfforol ac adnabod anghenion sylweddol yn gynnar. Cyflawnir hyn trwy roi cymorth ac arweiniad iechyd, cynnal grwpiau rhianta a rhoi cymorth ynghylch rhianta a gofal plant rhan amser am ddim.
**Ynglŷn â'r rôl**

Manylion am gyflog: Gradd 5, PCG £24,702 - £26,421 y.f.

Oriau Gwaith: 37

Patrwm Gweithio: Dydd Llun i ddydd Gwener

Prif Waith: Y Barri

Dros dro hyd at

**Disgrifiad**:
Cyd-fynd ag anghenion plant unigol 2 - 3 oed a'u teulu i leoliadau gofal plant o safon ym Mro Morgannwg. Monitro presenoldeb ar draws gofal plant a chymorth pontio o'r cartref i leoliad ac ymlaen i'r Meithrinfa.
**Amdanat ti**
Dwy flynedd o brofiad o weithio mewn amgylchedd gofal plantBydd angen:

- Profiad o gydgysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill ynghylch anghenion plant ifanc
- Profiad o weithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd
- Addysg gyffredinol dda
- CCLD lefel 3 neu gymhwyster cydnabyddedig cyfatebol mewn gofal plant/Blynyddoedd Cynnar
- Trwydded yrru ddilys lawn a char i'w ddefnyddio
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ac yn sensitif ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Sgiliau TG da (Word, Outlook, Excel)
- Y gallu i weithio fel aelod o dîm.
- Y gallu i weithio dan bwysau a chael agwedd hyblyg at weithio

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Angen Gwiriad DBS: Gwell Rhestr Gwahardd Oedolion / Plant

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Claire Urch Rheolwr y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Dechrau'n Deg

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.

Job Reference: SS00756

More jobs from Vale of Glamorgan Council