Cynorthwy-ydd Safle- Ysgol y Deri - Barry, United Kingdom - Vale of Glamorgan Council
Description
**Amdanom ni**Mae Ysgol y Deri yn Ysgol Arbennig ar gyfer disgyblion rhwng 3 a 19 oed sy'n darparu ar gyfer ystod eang ac amrywiol o ddisgyblion o allu gwahanol.
Mae gennym gyfleusterau o'r radd flaenaf ac rydym yn gweithio gyda phob plentyn fel unigolyn gan sicrhau bod ei anghenion addysgol a therapiwtig yn cael eu bodloni fel y gall ffynnu yn ein hysgol a phan fydd yn ei gadael.
**Am y Rôl**
Cyfeirnod y swydd (i'w ddefnyddio ar y ffurflen gais): PA-YYD
Manylion am gyflog: £25,409 - £27,852
Diwrnodau / Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos / 52 wythnos y flwyddyn
Patrwm gwaith i'w gadarnhau a'i gytuno.
Parhaol/Dros Dro: Parhaol
**Disgrifiad**:
Dymuniad y corff llywodraethol yw penodi cydlynydd safle i gynorthwyo yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau cynnal a chadw a diogelwch ar safle'r ysgol, er mwyn sicrhau amgylchedd gweithio diogel.
**Amdanat ti**
Dyma gyfle cyffrous i chwarae rhan yn y gwaith o weithredu safle'r ysgol yn llyfn ac effeithlon, drwy helpu i ddarparu amgylchedd diogel a chyfforddus i'n myfyrwyr a'n staff.
Byddwch yn unigolyn dibynadwy, sy'n gallu gweithio'n dda fel rhan o dîm, ac yn meithrin perthynas waith ardderchog gyda'u cydweithwyr.
Rydym yn chwilio i benodi rhywun sy'n barod ei gymwynas ac yn frwdfrydig, sy'n ymfalchïo yn ei waith, ac yn gallu cynorthwyo cadw a gweithredu adeiladau a thiroedd yr ysgol yn gyffredinol.
Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad blaenorol o weithio mewn sefyllfa debyg, fodd bynnag, rhoddir ystyriaeth os gallwch ddangos sgiliau trosglwyddadwy o rôl debyg neu gefndir tebyg.
Bydd gofyn i chi gael GDG manwl ar gyfer Plant ac Oedolion ar gyfer y swydd hon.
**Sut i wneud cais**
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: V Burbidge-Smith
Job Reference: SCH00480
More jobs from Vale of Glamorgan Council
-
Senior Day Care Officer
Barry, United Kingdom - 3 weeks ago
-
Athrawes Dosbarth Dros Dro Llawn Amser
Barry, United Kingdom - 2 weeks ago
-
Temporary Catering Assistant
Barry, United Kingdom - 3 weeks ago
-
Rheolwr Safle
Barry, United Kingdom - 2 weeks ago
-
Cynorthwyydd Arlwyo
Barry, United Kingdom - 1 week ago
-
Cleaner - Wick & Marcross
Barry, United Kingdom - 2 weeks ago