Swyddog Cymorth Trawsnewid Digidol - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

3 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter

Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â sgiliau TG rhagorol i ymuno â'r Tîm Trawsnewid Digidol fel Swyddog Cymorth Trawsnewid Digidol.

**Am Y Swydd**
Bydd y Swyddog Cymorth Trawsnewid Digidol yn gyfrifol am oruchwylio tîm o Swyddogion Cymorth Systemau sy'n gyfrifol am ddatblygu a rheoli technolegau newydd yn effeithiol, goruchwylio archebu a dyrannu offer TG, cefnogi gweithredu'r Strategaeth Ddigidol a darparu gwybodaeth ystadegol amserol gywir. Creu perthnasoedd effeithiol gyda rhanddeiliaid a phartneriaid technoleg i wella'r ddarpariaeth gwasanaethau lle mai TG yw'r galluogwr.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Dylai fod gennych awydd i weithio mewn amgylchedd tîm prysur ac i gydweithio gyda chydweithwyr. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth fanwl am dechnoleg newydd a phrofiad o weinyddu systemau. Mae sgiliau cyfathrebu a sefydliadol ardderchog yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae'r swydd wag hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03827

More jobs from Cardiff Council