Anogwr Cyflogadwyedd - Swansea, United Kingdom - Careers Wales

Careers Wales
Careers Wales
Verified Company
Swansea, United Kingdom

6 days ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
Ydych chi'n edrych am swydd lle rydych yn ysbrydoli a chynorthwyo pobl i feddwl am eu gyrfa yn y dyfodol? A oes gennych sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol? Os felly, rydym yn edrych am gyfathrebwyr hyblyg ac effeithiol sydd yn gartrefol yn cyfathrebu â chwsmeriaid drwy defnyddio cyfathrebu digidol (dros y ffôn, dros y we neu'r cyfryngau cymdeithasol) er mwyn darparu gwybodaeth a chyngor i'n cwsmeriaid.

Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu cyfarwyddyd a hyfforddiant gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, di-duedd a dwyeithog i bobl o bob oedran yng Nghymru, gan gynnwys y rhaglen newydd Cymru'n Gweithio.

**Anogwr Cyflogadwyedd - Cyswllt/CGC**

**Cyflog £22, ,493 **_(pro-rata i ymgeiswyr rhan amser)_**

**Cyflog Cychwynnol £22,625 **_(pro-rata i ymgeiswyr rhan amser)_**

**Mae gennym swyddi llawn a rhan amser yn ein tîm Cyswllt/CGC**.Oriau gwaith swydd llawn amser yw 37 awr yr wythnos, Dydd Llun-Dydd Gwener. Disgwyliwn I batrwm gwaith gweithwyr rhan amser gynnwys gweithio ar Dydd Llun. Mae'r gwasanaeth Cyswllt/CGC ar agor o 8am I 6pm, felly bydd disgwyl i ddeiliaid swyddi weithio I gynnal yr oriau agor yma ar sail rota.**

Mae'r gallu i siarad ac i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer rhai o'r swyddi ac yn ddelfrydol ar gyfer y swyddi eraill.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda grŵp amrywiol o gleientiaid gan gynnwys pobl ifanc yn eu blwyddyn olaf o addysg sydd am symud ymlaen i waith neu hyfforddiant; rhieni; oedolion di-waith sydd yn chwilio am gymorth i gael gwaith ac oedolion sy'n awyddus i newid eu gyrfa.

Mae ein Anogwyr Cyflogadwyedd
- yn cefnogi ac ysbrydoli eu cleientiaid i sicrhau'r yrfa orau bosibl sydd ar gael iddynt;
- yn darparu gwybodaeth a chyngor i gefnogi cleientiaid i reoli eu gyrfaoedd;
- yn darparu cymorth cyflogadwyedd (cymorth gyda chreu CV, gweithgareddau chwilio am swyddi ayb)i'r rhai sy'n dymuno dychwelyd i'r gwaith neu newid swyddi;
- yn helpu cleientiaid i gyflawni eu canlyniadau cadarnhaol cynaliadwy (addysg, hyfforddiant, cyflogaeth).

Dylai Anogwyr Cyflogadwyedd fod wedi'u haddysgu i safon NVQ 3 neu gymhwyster cyfatebol, yn ddelfrydol mewn maes cysylltiedig, neu fod â phrofiad o weithio ar y lefel hon. Os nad oes gennych Ddiploma Lefel 4 mewn Gwybodaeth a Chyngor Gyrfa eisoes, byddwn yn darparu'r hyfforddiant a'r cymorth sydd ei angen arnoch i ennill y cymhwyster gwerthfawr hwn.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael Gwiriad Safonol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gadarnach, yn hapusach fel y cyfryw - ac, wrth gwrs, dyna'r peth cywir i'w wneud. Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydyn ni'n ei wneud dros bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy'n gynrychioliadol o'r dinasyddion rydyn ni'n eu gwasanaethu, a hynny yn ein holl swyddi, beth bynnag fo'u gradd.

Anogir pobl o gefndiroedd amrywiol i wneud cais am swyddi gwag gyda Gyrfa Cymru.

Er nad yw sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer pob un o'r swyddi yma, rydyn ni'n cydnabod pwysigrwydd datblygu ein gweithlu dwyieithog, a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr sy'n gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredo (yn cynnwys dim credo), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu dueddiad rhywiol.

Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy'n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy'n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae'r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda'r broses recriwtio ac yn cael ei gynnal trwy'r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i'r gweithle - gan gefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.

Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn ar** 13/08/23**.

**Cynhelir cyfweliadau ar y 5ed a'r 6ed o Fedi 2023.**

I gael rhagor o wybodaeth sicrhewch eich bod yn darllen y fanyleb swydd lawn:

- Er gwybodaeth, nid ydym yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV. _

Ymysg y buddiannau deniadol mae oriau hyblyg, 31 diwrnod o wyliau, cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl sy'n gysylltiedig ag iechyd.

More jobs from Careers Wales