Technegydd Therapi Galwedigaethol - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Tîm Cyd-Wasanaeth Offer (CWO) Caerdydd a'r Fro yn awyddus i gyflogi Technegydd Therapi Galwedigaethol wedi'i leoli yn ein warws, Unedau 2 a 3 Lambourne Crescent, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GF.

Mae tîm CWO y Cyngor yn darparu offer i bobl yng Nghaerdydd a'r Fro. Rydym yn archebu, yn dosbarthu, yn casglu ac yn cynnal amrywiaeth eang o gymhorthion symud i helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain.
Mae offer yn cael ei archebu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, fel Nyrsys Ardal, Therapyddion Galwedigaethol a Ffisiotherapyddion ac yn cynnwys amrywiaeth eang o eitemau, o welyau arbenigol ac offer codi i offer ystafell ymolchi ac offer eistedd a cherdded a ddefnyddir gan blant mewn ysgolion.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n rhan o dîm i gynnig gwasanaeth o'r safon orau.

**Am Y Swydd**
Byddwch yn gyfrifol am gasglu, dosbarthu a gosod (yn ôl yr angen) offer a ddyluniwyd i gynorthwyo pobl ag anableddau yn eu cartrefi eu hunain. Byddai cyfarpar mwy eu maint (e.e. gwelyau proffilio, offer codi ac ati) yn gofyn i'r deiliad swydd weithio fel aelod mewn tîm o ddau. Ar ôl pob cais am ddosbarthu/gosod gan aelod tîm clinigol yn dilyn asesiad o anghenion y cleient, caiff archeb ddosbarthu ei phrosesu gan dîm gweinyddu'r CWO a chaiff yr offer ei gasglu, ei ddosbarthu a'i osod gan dîm mewnol y byddai'r swydd hon yn rhan ohono.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae'r swydd yn un gorfforol a bydd gofyn i chi allu cyflawni ystod eang o weithgareddau codi a chario (codi, tynnu, gwthio ac ati).

Mae'r holl amserlenni gwaith yn cael eu rheoli gan ddefnyddio dyfeisiau llaw felly mae dealltwriaeth o dechnoleg / apiau symudol yn hanfodol. Bydd angen gweithredu faniau masnachol bach (dan 7.5T) yn rhan o'r swydd ac felly mae trwydded yrru lân yn hanfodol.

Byddwch yn dosbarthu at ac yn mynd i mewn i gartrefi preswylwyr sy'n agored i niwed ac mae gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) yn ofyniad hanfodol arall i'r swydd.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl ar ôl darllen y disgrifiad swydd, cysylltwch â Sean Hall - Rheolwr Warws

Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra eich cais i'r rôl yn yr adran Gwybodaeth Ategol, gan nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol a restrir ar y Fanyleb Person. Dylech hefyd nodi sut rydych yn bodloni'r meini prawf dymunol gan y gallem ddefnyddio'r rhain i lunio'r rhestr fer os bydd nifer fawr o ymgeiswyr yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae adran Gwybodaeth Ategol y ffurflen gais ar-lein wedi'i chyfyngu i 4,000 o nodau - gallwch lanlwytho Gwybodaeth Ategol ychwanegol ond peidiwch â chyflwyno CV gan nad yw'n debygol o gynnig y wybodaeth sydd ei hangen. Darllenwch y canllaw ar sut i wneud cais.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy'n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy'n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Mae'r swydd hon yn destun Gwiriad Safonol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nodwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw Ymgeisio
- Gwneud cais am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd

Job Reference: PEO03701

More jobs from Cardiff Council