Tiwtor Cemeg - Swansea, United Kingdom - Swansea University

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Prif ddiben y swydd**
Er mwyn cyflawni ei huchelgais cynaliadwy o fod yn un o'r 30 o brifysgolion gorau, mae angen ar Brifysgol Abertawe weithlu â'r sgiliau amrywiol angenrheidiol i sicrhau ei bod yn gallu cyflawni rhagoriaeth mewn ymchwil, addysgu, dysgu a phrofiad ehangach y myfyrwyr, ac i fod yn bwerdy ar gyfer economi'r rhanbarth ac yn rhyngwladol.

Mae'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn dymuno penodi unigolyn brwdfrydig i ymgymryd â rôl tiwtor addysgu i gefnogi'r addysgu o Gemeg Organig a Meddyginiaethol yn yr Adran Gemeg. Mae'r swydd yn gofyn am ddarparu safon uchel o addysgu a dysgu i fyfyrwyr, ac ymrwymiad i wella profiad cyffredinol myfyrwyr.

Prif bwrpas y swydd yw cyfrannu at addysgu ac asesu modiwl Cemeg Biolegol a Meddyginiaethol yr ail flwyddyn. Yn ogystal, bydd y tiwtor addysgu yn cynorthwyo gyda chyflwyno ac asesu dosbarthiadau cemeg organig, biolegol, meddyginiaethol a dadansoddol yn y labordy a dosbarthiadau eraill, ar draws bob blwyddyn astudio, a bydd yn rhannu cyfrifoldebau gweinyddol sefydliadol ac academaidd. Mae'r swydd hon yn rhan o ymrwymiad y Gyfadran i ddatblygu amgylchedd dysgu cyfoethog i fyfyrwyr.

Mae gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn Cemeg neu unrhyw faes perthnasol arall yn hanfodol, yn ogystal â'r gallu i addysgu a goruchwylio myfyrwyr ar lefel israddedig, mewn dosbarth ac yn y labordy addysgu, ym maes cemeg organig a meddyginiaethol. Mae cymhwyster addysgu cydnabyddedig yn ddymunol.

**Manylion cyswllt ymholiadau anffurfiol & gwybodaeth bellach**
Croesewir ymholiadau anffurfiol a dylid eu cyfeirio at sylw:
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Mae menywod wedi'u tangynrychioli yn y maes academaidd hwn, felly byddem yn croesawu ceisiadau am y swydd hon gan fenywod yn benodol. Hefyd, mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn. Penodir ar sail teilyngdod bob amser.

Job Reference: AC05753