Cynghorwyr Gyrfa/cynghorwyr Gyrfa Dan - Deeside, United Kingdom - Careers Wales

Careers Wales
Careers Wales
Verified Company
Deeside, United Kingdom

3 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu cyfarwyddyd a hyfforddiant gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, di-duedd a dwyeithog i bobl o bob oedran yng Nghymru, gan gynnwys y rhaglen Cymru'n Gweithio.

Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gadarnach, yn hapusach fel y cyfryw - ac, wrth gwrs, dyna'r peth cywir i'w wneud. Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydyn ni'n ei wneud dros bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy'n gynrychioliadol o'r dinasyddion rydyn ni'n eu gwasanaethu, a hynny yn ein holl swyddi, beth bynnag fo'u gradd.

Anogir pobl o gefndiroedd amrywiol i wneud cais am swyddi gwag gyda Gyrfa Cymru.

**Cynghorwyr Gyrfa/Cynghorwyr Gyrfa Dan Hyfforddiant - cyflog cystadleuol - telerau ac amodau rhagorol - swyddi gwag ym Sir y Fflint / Sir Ddinbych; Casnewydd; Caerffili; Sir Drefynwy ac Abertawe.**
- Allwch chi ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc ac oedolion i gymryd camau cadarnhaol tuag at gyflawni eu huchelgeisiau?
- Ydych chi eisiau cyfrannu at ddatblygu sgiliau ac economi Cymru yn y dyfodol?
- Ydych chi eisiau gweithio i sefydliad cenedlaethol proffesiynol, modern ac arloesol a gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl?

Mae Gyrfa Cymru yn wasanaeth cyfarwyddyd i bobl o bob oed sy'n cefnogi pobl ifanc mewn addysg a chwsmeriaid yn y farchnad lafur. Ni yw'r unig sefydliad cenedlaethol yng Nghymru sy'n cynnig gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd diduedd am yrfaoedd. Mae gan ein cynghorwyr angerdd tuag at helpu pobl i gyflawni eu potensial.

**Rydym yn recriwtio Cynghorwyr Gyrfa cymwysedig a than hyfforddiant sy'n gallu gweithio gydag ystod eang o bobl. Cyflog Cynghorydd Gyrfa yw £29,814 - £34,498, cyflog i gychwyn ar £29,814 a chyflog Cynghorydd Gyrfa dan Hyfforddiant yw £28,641. Mae gennym swyddi gwag yn y meysydd canlynol: -**

**Gweithio o fewn Addysg**:
Mae ein Cynghorwyr Gyrfa sy'n gweithio ym myd addysg yn allweddol o ran sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu paratoi ar gyfer cyfnodau pontio allweddol yn eu bywydau a'u bod yn ymwybodol o'r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo mewn marchnad lafur sy'n newid yn barhaus. Maent yn gweithio gyda phobl ifanc mewn ysgolion prif ffrwd, ysgolion arbennig, y rhai sy'n cael eu haddysgu heblaw mewn ysgolion a cholegau AB.

Mae cynghorwyr gyrfa yn defnyddio ystod o offer a sgiliau i gefnogi'r gwaith y maent yn ei wneud gyda phobl ifanc. Mae hyn yn amrywio o gefnogaeth un i un, cyflwyno sesiynau grŵp rhyngweithiol a chyflwyno gwybodaeth gan ddefnyddio ystod o dechnoleg ddigidol.

Os hoffech gael yr her o weithio gyda phobl ifanc o bob gallu a chefndir, os ydych yn gallu cymell ac ysbrydoli pobl ifanc i gyflawni eu nodau, os gallwch greu perthynas effeithiol gydag athrawon, rhieni a darparwyr dysgu eraill, yna hoffem glywed gennych.

**Mae gennym swyddi gwag ar gyfer Cynghorwyr Gyrfa addysg a / neu Gynghorwyr Gyrfa dan Hyfforddiant yng Nghasnewydd; Caerffili a Sir Fynwy (Llawn a Rhan Amser / 4 diwrnod yr wythnos) ac yn Sir y Fflint / Sir Ddinbych (Rhan Amser / 3 diwrnod yr wythnos). Mae'r gallu i siarad a medru gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddelfrydol ar gyfer dwy o'r tair swydd yng Ngaerffili, Sir Fynwy a Chasnewydd ac yn hanfodol ar gyfer y drydedd swydd yn yr ardaloedd yma yn ogystal a'r swydd yn Sir y Fflint/Sir Ddinbych. Lle mae sgiliau iaith Cymraeg yn hanfodol disgwylir i'r ymgeiswyr fedru siarad **phobl ifanc ac ysgrifennu cynlluniau gweithredu anffurfiol yn Gymraeg.**

**Gweithio gyda phobl ifanc ac oedolion yn y Farchnad Lafur**:
Fel rhan o'r rhaglen Cymru'n Gweithio, mae ein Cynghorwyr Gyrfa yn gweithio gyda phobl ifanc ac oedolion i gynnig cymorth asesu a chyfarwyddyd i'w helpu i ymuno neu ailymuno â'r farchnad lafur. Maent yn gweithio gydag ystod o grwpiau cwsmeriaid, gan gynnwys y rhai sy'n ddi-waith yn y tymor hir a'r tymor byr, y rhai sy'n economaidd anweithgar, pobl â rhwystrau iechyd ac anabledd a'r rhai sy'n ceisio newid eu gyrfaoedd. Maent hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol a chenedlaethol gan gynnwys darparwyr hyfforddiant, canolfannau gwaith, carchardai, timau troseddau ieuenctid, cyflogwyr a sefydliadau proffesiynol eraill i gefnogi eu cwsmeriaid i gael addysg, hyfforddiant a gwaith cynaliadwy.

Mae'r cynghorwyr yn defnyddio ystod o offer a sgiliau i gefnogi'r gwaith a wnânt ac mae hyn yn amrywio o gefnogaeth un i un, cyflwyno sesiynau rhyngweithiol i grwpiau yn canolbwyntio ar gyflogadwyedd i gyflwyno gwybodaeth gan ddefnyddio ystod o dechnolegau digidol.

Os hoffech gael yr her o weithio gyda phobl ifanc ac oedolion o bob gallu a chefndir yn y farchnad lafur, os ydych yn gallu eu cymell a'u hysbrydoli i gyflawni eu nodau, ac yn gallu sefydlu perthynas effe

More jobs from Careers Wales