Athro Arbenigol Awtistiaeth - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

3 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Tîm Cymorth Awtistiaeth (TCA) Caerdydd eisiau penodi athro profiadol, dynamig a brwdfrydig i'r gwasanaeth cymorth sefydledig hwn.

Gan weithio fel rhan o Wasanaeth Cynhwysiant Addysg Caerdydd, mae'r Tîm Cymorth Awtistiaeth (TCA) yn cefnogi dysgwyr sydd wedi'u nodi'n awtistig, neu'r rhai sy'n cael eu hasesu ar gyfer diagnosis o Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistiaeth. Mae'r tîm yn cynnig ystod eang o gyngor, cymorth a hyfforddiant i ddysgwyr, rhieni / gofalwyr, ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill, ac mae'n gweithio'n agos gyda chydweithwyr o bob rhan o'n hysgolion, y Gwasanaeth Cynhwysiant, Iechyd a Gwasanaethau Plant. Rydym yn gweithio mewn ystod eang o leoliadau gyda dysgwyr o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 14 i gefnogi cynhwysiant a sicrhau bod ein dysgwyr yn cyflawni eu potensial llawn.
**Am Y Swydd**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm o Athrawon Arbenigol a Chynorthwywyr Addysgu profiadol a brwdfrydig. Mae'r rôl yn cynnwys ystod eang o brofiadau gwahanol, gweithio ar draws yr ystod oedran ac ar draws pob lleoliad - gweithio gyda dysgwyr awtistig a'r rhai sy'n cael eu hasesu ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig, eu hysgolion, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill. Drwy'r rôl byddwch yn cyfrannu at godi ymwybyddiaeth, cynyddu arbenigedd a gwybodaeth ar draws ein hysgolion, a modelu a chefnogi arfer cynhwysol rhagorol ym maes awtistiaeth. Er bod rhywfaint o addysgu uniongyrchol, mae rhan fawr o'r rôl yn cynnwys gweithio gyda sefydliadau i greu newid.

**Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael PRG/GGU + 1 neu 2 bwynt ADY yn dibynnu ar eu cymhwyster penodol ym maes ADY / Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig**
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am athro sydd â dealltwriaeth gadarn o ystod anghenion dysgwyr awtistig a phrofiad helaeth o gefnogi dysgwyr ag Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig. Yn ogystal, bydd angen i ddeiliad y swydd feddu ar sgiliau rhyngbersonol a sgiliau trefnu rhagorol.

Byddai angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn hyblyg, yn empathetig, gyda dealltwriaeth gref o sut beth yw addysgu a dysgu o ansawdd da. Byddai angen iddo allu addasu ei addysgu a'i arddull ryngweithiol i weddu i ystod o oedrannau, lleoliadau a sefyllfaoedd, a gallu meithrin cydberthnasau proffesiynol cadarn sy'n helpu i ysgogi newid mewn modd adeiladol.

Byddai dealltwriaeth gref o TGCh gyda phwyslais ar dechnoleg mynediad, ei chryfderau a'i chyfyngiadau, yn fantais, yn ogystal â dealltwriaeth dda o'r ffordd y mae strategaethau Anghenion Dysgu Ychwanegol yn gweithio o fewn y strwythur addysgol ehangach.

Mae'r byd addysg yn newid yn gyflym, a byddai angen i'r ymgeisydd llwyddiannus allu cymryd agwedd gadarnhaol at weithio mewn amgylchedd sy'n newid.

Rydym yn chwilio am berson:

- Sy'n deall yr ystod o ddysgwyr awtistig a'u goblygiadau o ran dysgu ac addysgu yn drylwyr;
- sy'n gallu dangos tystiolaeth o DPP parhaus ym maes ADY
- gyda gwybodaeth drylwyr am strategaethau sy'n effeithio ar ddisgyblion ag awtistiaeth
- gyda chymwysterau ychwanegol ym maes ADY / AAA, neu ymrwymiad clir i gael y cymhwyster hwn
- gyda phrofiad addysgu profedig sylweddol o weithio gyda dysgwyr awtistig a phrosiectau gwella blaenllaw mewn ysgolion yn y maes hwn
- gyda gwybodaeth dda a thystiolaeth o ddeall mentrau a datblygiadau lleol a chenedlaethol mewn perthynas ag ADY, anghenion iechyd a lles emosiynol a'r cwricwlwm newydd
- gyda phrofiad o weithio amlasiantaethol gan gynnwys gyda rhieni / gofalwyr
- gyda phrofiad o weithredu dulliau cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
- gyda sgiliau cyfathrebu ardderchog a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol gydag ystod o randdeiliaid
- sy'n gallu rheoli newid, datrys problemau, defnyddio lefelau uchel o fenter a rheoli llwyth gwaith eich hun yn effeithiol

**Gwybodaeth Ychwanegol**

**Dylai'r ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus allu cyfathrebu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg hyd at Lefel 5 - Hyfedr.**

Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Rhaid i ddeiliad y swydd gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae'r swydd hon yn destun Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy'n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy'n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Sylwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw

More jobs from Cardiff Council