Rheolwr Gwasanaethau Ymwelwyr- Goggledd - Crymych, United Kingdom - Pembrokeshire Coast National Park Authority

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro - Rheolwr Gwasanaethau Ymwelwyr, Castell Henllys.
Parhaol - Llawn amser (37 awr)

Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn chwilio am Reolwr Gwasanaethau Ymwelwyr yng Nghastell Henllys, y pentref Oes Haearn arobryn ac un o'n cyfleusterau ymwelwyr mwyaf difyr a drysorir. Mae'r Rheolwr Gwasanaethau Ymwelwyr yn gyfrifol am ddatblygu a rheoli Castell Henllys i sicrhau profiad o'r radd flaenaf i bob ymwelydd.

**Bydd y Rheolwr Gwasanaethau Ymwelwyr**:

- Yn datblygu, rheoli a hyrwyddo rhaglen berthnasol ac ysbrydoledig o weithgareddau a digwyddiadau sy'n helpu i ddehongli rhinweddau arbennig Gogledd Sir Benfro tra'n cynyddu nifer yr ymwelwyr, eu mwynhad, ac incwm.
- Yn rheoli ac yn ysgogi tîm amrywiol yn effeithiol i roi profiad eithriadol i bob ymwelydd yn unol ag amcanion yr Awdurdod.
- Yn gyfrifol am reoli safle Castell Henllys yn ei gyfanrwydd (o'r ganolfan ymwelwyr i'r maes parcio a'r tiroedd ehangach). Yn datblygu systemau cadarn, drwy ymgysylltu'n agos â thîm ehangach APCAP, i sicrhau bod Castell Henllys yn cael ei reoli'n ddiogel ac yn effeithiol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch yr Awdurdod.
- Yn datblygu a gweithredu cynllun marchnata ar gyfer Castell Henllys ar y cyd â'r Tîm Marchnata a Chyfathrebu yn y Pencadlys.
- Yn sicrhau bod Castell Henllys yn cael ei reoli'n ddiogel ac yn effeithiol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch yr Awdurdod.

**Rhaid bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus**:

- Hanes profedig o reoli yn llwyddiannus ym maes twristiaeth/ treftadaeth/ rheoli diwylliannol.
- Profiad o reoli cyllidebau, monitro perfformiad ariannol ac adnoddau staffio.
- Profiad o gynllunio a rheoli digwyddiadau.
- Sgiliau busnes a masnachol. Rhaid deall y cyfleoedd i gynhyrchu refeniw.
- Ymrwymiad i wasanaeth ymwelwyr 7 diwrnod, gyda rhywfaint o weithio gyda'r hwyr a thu allan i oriau arferol.
- Y gallu i siarad Cymraeg hyd at lefel B2 neu uwch (Cymraeg canolradd).

Disgrifiad swydd llawn ar gael i'w lawrlwytho.

Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad DBS.

**Cyflog a Buddion**:
Cyflog yn amrywio hyd at £32,020, yn dibynnu ar brofiad. O leiaf 23 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau ardderchog o weithio oriau hyblyg, a chyfleoedd datblygu gyrfa.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.

**Dyddiad Cau**:
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn neilltuo'r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar.

More jobs from Pembrokeshire Coast National Park Authority