Uwch Bartner Perfformiad Corfforaethol - Barry, United Kingdom - Vale of Glamorgan Council

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Amdanom ni**

Wedi'ch lleoli yng nghanol ein sefydliad, byddwch yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau corfforaethol yn ogystal â mentrau polisi a rheoli perfformiad a fydd yn rhoi'r cyfle i chi gael effaith sylweddol ar y ffordd rydym yn gwasanaethu ein cwsmeriaid.

Os ydych yn weithiwr tîm gwych gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol sy'n mwynhau cynnal ymchwil, dadansoddi ac archwilio'r data i ddod o hyd i ffyrdd o wneud gwelliannau, rydym yn awyddus i glywed gennych.

**Ynglŷn â'r rôl**

Manylion Cyflog: Gradd 8 (Pwynt Graddfa £32,909 - £36,298 y flwyddyn pro rata

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos

Prif Weithle: Swyddfeydd Dinesig, Y Barri gyda rhywfaint o weithio gartref

Rheswm dros gynnig swydd dros dro: Deiliad y swydd ar secondiad mewn adran arall o'r Cyngor am 18 mis.

**Disgrifiad**:
Mae'r rôl yn cynnwys gweithio ar draws pob adran o'r Cyngor, gydag aelodau etholedig a sefydliadau partner i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a gweithredu polisïau, strategaethau a mentrau corfforaethol. Gan adrodd i'r Rheolwr Perfformiad Corfforaethol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am y gweithgareddau canlynol;
- Cymryd yr awenau ar ddull rheoli risg y Cyngor, gan gynnwys datblygu'r Strategaeth Rheoli Risg, canllawiau a hyfforddiant cysylltiedig, systemau cofnodi ac adrodd.
- Darparu diweddariadau rheolaidd i Fwrdd Mewnwelediad Strategol y Cyngor, y Tîm Arweinyddiaeth Strategol a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar risgiau Corfforaethol, gan gynnwys gwneud cysylltiadau rhwng risgiau sy'n dod i'r amlwg a'r risgiau presennol a'r camau corfforaethol posibl y gallai fod eu hangen.
- Gweithio'n agos ag archwilwyr mewnol / allanol er mwyn cynnal enw rhagorol y Cyngor o ran rheoli a monitro perfformiad.
- Cefnogi gwaith sy'n galluogi'r Cyngor i gydymffurfio â'i ddyletswyddau perfformiad statudol mewn perthynas â gosod amcanion lles, gan barhau i adolygu perfformiad trwy hunanasesu ac ymgynghori ac adrodd ar ein perfformiad.
- Darparu cymorth ar brosiectau corfforaethol fel sy'n ofynnol o dan gyfarwyddyd y Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol a'r Tîm Arweinyddiaeth Strategol.

**Amdanat ti**
I fod yn llwyddiannus yn y swydd hon bydd angen y canlynol arnoch:

- profiad sylweddol ac amlwg o gymhwyso ystod o ddulliau rheoli perfformiad i gefnogi'r broses o wella'r sefydliad.
- profiad o ddatblygu strategaethau rheoli risgiau corfforaethol gan gynnwys canllawiau, hyfforddiant a dulliau adrodd.
- gwybodaeth ymarferol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 gan gyfeirio'n benodol at ddyletswyddau perfformiad awdurdodau lleol.
- bod yn drafodwr, dylanwadwr ac adeiladwr perthynas medrus gyda'r gallu i ddylanwadu ar swyddogion sy'n gweithio ar lefelau sylweddol uwch yn y sefydliad.
- sgiliau ymchwil, dadansoddol a chyflwyno rhagorol.
- profiad o arwain timau prosiect trawsadrannol.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Oes angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: Nac oes

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: RES00327

More jobs from Vale of Glamorgan Council