Athro/athrawes y Gymraeg - Powys, United Kingdom - Llanidloes High School

Llanidloes High School
Llanidloes High School
Verified Company
Powys, United Kingdom

3 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
Athro/Athrawes y Gymraeg

Mae Ysgol Uwchradd Llanidloes yn un o'r ysgolion hapusaf, uchaf ei chyflawniad yng Nghymru. Rydym wedi cael ein bendithio â diwylliant dysgu bywiog a llewyrchus, ethos hynod ofalgar a thîm o staff ymroddedig dros ben. Dyma gyfle gwirioneddol gyffrous i athro/ athrawes Cymraeg ysbrydoledig ymuno ag ysgol categori gwyrdd ardderchog a leolir yn ardal hardd a gwledig Canolbarth Cymru.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

- gofalu'n ddwys am les a llwyddiant academaidd ein holl ddisgyblion;
- gallu dysgu Cymraeg Ail-Iaith yn effeithiol hyd at ac yn cynnwys TGAU. Bydd cyfle i ddysgu Cymraeg Iaith Gyntaf ar gael i'r ymgeisydd addas;
- llawn cymhelliant, yn gallu ysbrydoli cariad at ddysgu a sicrhau bod pob disgybl yn cyflawni'r safonau academaidd uchaf posibl;
- ddeinamig yn y dosbarth gan gynnal safonau uchel iawn o ran addysgu a dysgu;
- meddu ar sgiliau rhyngbersonol rhagorol, yn aelod o dîm effeithlon a gallu gweithio'n annibynnol yn effeithiol;
- meddu ar sgiliau trefnu rhagorol ac etheg gwaith gref;
- cyfrannu'n llawn at ddarparu cyfleoedd allgyrsiol;
- meddu ar agwedd 'rhagweithiol' at ddatrys problemau.

Mae'r gallu i siarad a chyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae croeso i ANG wneud cais.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Sul yr 16eg o Ebrill. Bydd y rhestr fer yn cael ei llunio ar y 18fed o Ebrill a chynhelir cyfweliadau ddydd Iau 20fed o Ebrill 2023.

Mae croeso i chi gysylltu â Mrs Susan Bound, Rheolwr Busnes, i gael rhagor o wybodaeth.

Please note that you are wholly responsible for fact checking in respect of the information provided by schools. Please also check for the latest visa and work permit requirements that may apply. Tes is not responsible for the content of advertisements or the policies adopted by advertising schools. Tes asks that all schools follow Tes' Fair Recruitment Policy.

More jobs from Llanidloes High School