Newyddiadurwr Digidol S4c - Carmarthen, United Kingdom - S4C
Description
Mae Newyddion S4C yn wasanaeth newyddion digidol sydd yn dod a'r newyddion diweddaraf i gynulleidfa Gymraeg.Y nod yw cyrraedd a gwasanaethu cynulleidfa ehangach na'r rhai sy'n gwylio newyddion ar deledu, a hynny ar ffurf fideo a thestun, pryd bynnag a lle bynnag maen nhw eisiau.Dyma gyfle unigryw i fod yn rhan o wasanaeth fydd yn siapio hinsawdd newyddiadurol Cymru i'r dyfodol.
Gyda diddordeb brwd mewn newyddion Cymreig a'r cyfryngau digidol bydd gennych syniadau creadigol a dyfeisgar am sut i ddatblygu' gwasanaeth digidol a denu dilyniant.
Bydd gennych drwyn am stori a'r gallu i fod yn greadigol gyda'r cynnwys gan gynhyrchu cynnwys o safon sy'n dal y llygad ac yn creu sŵn.
Gyda sgiliau ieithyddol da byddwch yn ysgrifennu yn gywir ac yn ystwyth a bydd gennych y ddawn i gynnal tôn ac arddull priodol ar gyfer y gwasanaeth.
Byddwch yn arddel gwerthoedd cynhwysol a byddwch yn frwd dros sicrhau bod amrywiaeth o bob math yn cael ei adlewyrchu gan y gwasanaeth.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn rhugl yn y Gymraeg a Saesneg i safon dda gyda staff ac eraill ar bob lefel, yn ysgrifenedig ac ar lafar yn hanfodol ar gyfer y rôl yma.
- **Digital Journalist**_
- S4C is looking for a Digital Journalist to join its service. The ability to communicate fluently in Welsh and English to a good standard with staff and others at all levels, in writing and orally _is essential for this role.
- Please refer to the Welsh advert for further details_
**Manylion eraill**
**Lleoliad**: Canolfan S4C Yr Egin. Mae S4C yn gweithredu polisi gweithio'n hybrid. Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Caernarfon.
**Cyflog**: Yn unol â phrofiad
**Cytundeb**:Parhaol
**Oriau Gwaith**: Bydd eich oriau gwaith arferol yn ôl patrwm sifft weithredol, sef cyfanswm o 353⁄4 awr yr wythnos. Eich rôl yw cynnal gwasanaeth 7 diwrnod yr wythnos. O ganlyniad bydd eich patrwm sifft ar draws 7 diwrnod, ac yn unol â gofynion y gwasanaeth.
**Cyfnod Prawf**: 6 mis
**Gwyliau**: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
**Pensiwn**:Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
**Ceisiadau**
Nid ydym yn derbyn CV.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
- CVs will not be accepted._
**Job Types**: Full-time, Permanent
Work Location: Hybrid remote in Carmarthen SA31 3EQ
Application deadline: 06/02/2023
More jobs from S4C
-
Swyddog Cyfathrebu
Carmarthen, United Kingdom - 3 weeks ago
-
Cynorthwyydd Materion Busnes
Carmarthen, United Kingdom - 6 days ago
-
Clerc Cyllid
Carmarthen, United Kingdom - 5 days ago
-
Cyhoeddwr (Rhan Amser) / Announcer (Part Time)
Cardiff, United Kingdom - 2 weeks ago
-
Head of Commercial Content Fund
Cardiff, United Kingdom - 1 week ago
-
Cynorthwyydd Tîm
Carmarthen, United Kingdom - 5 days ago