Prentis (Lefel 3): Meithrinfa - Neath, United Kingdom - NPTC Group of Colleges

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
Ydych chi'n chwilio am eich cam cyntaf mewn gyrfa? Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio gyda phlant? Mae hwn yn gyfle gwych i ennill cyflogaeth, profiad a chymwysterau yn ein Meithrinfa sydd wedi enill nifer o wobrau.

**Ynglyn â ni**:Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.

Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau'r dyfodol ers dros 90 mlynedd, credwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda'n staff addysgu hynod gymwys a'u gwybodaeth helaeth o'r diwydiant wrth law byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.

**Pam y dylech chi weithio i ni? **Yn ogystal â chynnig cyflogau cystadleuol**, **rydym hefyd yn cynnig cynllun pensiwn** **â buddion wedi'u diffnio gyda buddion megis marwolaeth yn ystod gwasanaeth i enwi dim ond un ac am bob £100 a enillwch, rydym yn cyfrannu £21.20. Ceir mwy o wybodaeth yma Nodweddion Allweddol : LGPS. At hynny, mae gennym parcio am ddim a gwyliau hael o 28 diwrnod y flwyddyn ( yn codi i 32 diwrnod ar ôl 5 mlynedd), yn ogystal â 5 niwrnod cau y flwyddyn. Mae gweithio hyblyg a gweithio ystwyth ar gael ar gyfer staff sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd ynghyd â'r cyfle i ymgeisio am gyfnod sabothol a rhannu swydd. Ar gyfer rhieni a gofalwyr, mae darpariaeth gofal plant ar gael hefyd ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Ngholeg Castell-nedd gyda gostyngiad o 10% i staff. Mae gwasanaethau cymorth i staff yn cefnogi mynediad at ddarpariaeth iechyd galwedigaethol yn ogystal â Llinell Gymorth i Gyflogeion, sy'n llinell cyfrinachol 24 awr sy'n cynnig Cymorth Personol a Chyngor Rheoli Bywyd. Darparir mynediad hefyd at Gydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig ar gyfer ein staff. Mae'r Coleg yn hyrwyddo diwylliant o ddatblygiad proffesiynol parhaus gan gynnig ystod helaeth o gyfleoedd datblygu i'n holl staff. Yn ogystal â darparu sesiynau allweddol i uwchsgilio a chodi ymwybyddiaeth, mae'r Coleg hefyd yn cynnig cyfleoedd i staff cymorth a staff academaidd ddatblygu eu sgiliau proffesiynol. Mae'r dyfodol yn sicr yn ddisglair yng Ngrwp Colegau NPTC

More jobs from NPTC Group of Colleges