Teaching Assistant Level 2 - Pengam, United Kingdom - Caerphilly County Borough Council
Description
Cynorthwyydd addysgu Lefel 2Ysgol Gymraeg Trelyn
Sir Caerffili
Cyflog: Gradd 4
32.5 awr yr wythnos yn ystod tymor yr ysgol yn unig
Hyd y Cytundeb:
- Cyfnod cyfyngedig tan Awst 31ain, 2024
Swydd i ddechrau: Medi'r 1af, 2023
Mae Corff Llywodraethol yr ysgol lwyddiannus hon yn awyddus i benodi cynorthwy-ydd i ymuno â thîm o staff brwdfrydig, egniol, gweithgar a hapus. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus gydweithio'n agos gyda phlant, rhieni a staff yr ysgol er mwyn sicrhau parhad i ethos ardderchog a safonau uchel yr ysgol. Gwahoddir ceisiadau gan unigolion fydd ag ymrwymiad at werthoedd a gweledigaeth yr ysgol.
Ein nod yw datblygu'r plentyn a chreu awyrgylch ddiogel, hapus a Chymreig. Datganiad cenhadol yr ysgol yw "Cymraeg yw Iaith ein Taith", a nodwyd yn arolygiad ESTYN bod 'y disgyblion ar draws yr ysgol yn ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg ac yn ei defnyddio'n naturiol wrth sgwrsio â'i gilydd.'
Lleolir Ysgol Gymraeg Trelyn ym mhentref Pengam, ger Ystrad Mynach, ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, rhyw hanner awr o Gaerdydd.
Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person cliciwch yma
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd uchod cysylltwch â Mrs Liz Owen, Pennaeth, ar rif ffôn yr ysgol sef
Dylid anfon ffurflen gais a llythyr yn cefnogi eich cais at Mrs Liz Owen, y Pennaeth, erbyn 12 o'r gloch y prynhawn, dydd Mercher, Ebrill 19eg, 2023.
O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, mae rhaid i'r holl staff Cymorth Dysgu (sy'n cynnwys y swyddi y sonir amdanynt yma) fod wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg dros Gymru o 1 Ebrill 2016.
Bydd eich cyflogaeth yn dibynnu ar dystiolaeth ddigonol o'ch cofrestriad a'ch cofrestriad parhaol, fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar y wefan hon ffonio Eich cyfrifoldeb ydi sicrhau eich bod yn cofrestru ac yn parhau i gofrestru yn unol â thermau a thelerau eich cyflogaeth.
Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn a bydd yr ysgol yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a a Gwahardd (DBS).
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
- Send to a friend- Job title- Teaching Assistant Level 2- Job reference- REQ Date posted- 21/03/2023- Application closing date- 18/04/2023- Location- Pengam- Salary- Gradd £16,229 SCP5 - £16,525 SCP6- Package- Tymor Penodol TTO Rhan Amser- Contractual hours Basis- Blank- Job category/type- Schools - Support- Attachments- Blank- Job descriptionCynorthwyydd addysgu Lefel 2
Ysgol Gymraeg Trelyn
Sir Caerffili
Cyflog: Gradd 4
32.5 awr yr wythnos yn ystod tymor yr ysgol yn unig
Hyd y Cytundeb:
- Cyfnod cyfyngedig tan Awst 31ain, 2024
Swydd i ddechrau: Medi'r 1af, 2023
Mae Corff Llywodraethol yr ysgol lwyddiannus hon yn awyddus i benodi cynorthwy-ydd i ymuno â thîm o staff brwdfrydig, egniol, gweithgar a hapus. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus gydweithio'n agos gyda phlant, rhieni a staff yr ysgol er mwyn sicrhau parhad i ethos ardderchog a safonau uchel yr ysgol. Gwahoddir ceisiadau gan unigolion fydd ag ymrwymiad at werthoedd a gweledigaeth yr ysgol.
Ein nod yw datblygu'r plentyn a chreu awyrgylch ddiogel, hapus a Chymreig. Datganiad cenhadol yr ysgol yw "Cymraeg yw Iaith ein Taith", a nodwyd yn arolygiad ESTYN bod 'y disgyblion ar draws yr ysgol yn ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg ac yn ei defnyddio'n naturiol wrth sgwrsio â'i gilydd.'
Lleolir Ysgol Gymraeg Trelyn ym mhentref Pengam, ger Ystrad Mynach, ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, rhyw hanner awr o Gaerdydd.
Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person cliciwch yma
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd uchod cysylltwch â Mrs Liz Owen, Pennaeth, ar rif ffôn yr ysgol sef
Dylid anfon ffurflen gais a llythyr yn cefnogi eich cais at Mrs Liz Owen, y Pennaeth, erbyn 12 o'r gloch y prynhawn, dydd Mercher, Ebrill 19eg, 2023.
O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, mae rhaid i'r holl staff Cymorth Dysgu (sy'n cynnwys y swyddi y sonir amdanynt yma) fod wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg dros Gymru o 1 Ebrill 2016.
Bydd eich cyflogaeth yn dibynnu ar dystiolaeth ddigonol o'ch cofrestriad a'ch cofrestriad parhaol, fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar y wefan hon ffonio Eich cyfrifoldeb ydi sicrhau
More jobs from Caerphilly County Borough Council
-
Senior Residential Child Care Worker
Caerphilly, United Kingdom - 3 weeks ago
-
Breakfast Club Assistant
Abercarn, United Kingdom - 3 weeks ago
-
Parc y Felin Icc
Caerphilly, United Kingdom - 3 days ago
-
Breakfast Club Assistant
Borough Station, United Kingdom - 3 days ago
-
Breakfast Club Supervisor- Pupil
Caerphilly, United Kingdom - 3 days ago
-
Breakfast Club Assistant
Borough Station, United Kingdom - 3 weeks ago