Cydlynydd Marchnata/marketing Co-ordinator - Gwynedd, United Kingdom - GISDA

GISDA
GISDA
Verified Company
Gwynedd, United Kingdom

2 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**DISGRIFIAD SWYDD**

**TEITL SWYDD **Cydlynydd Marchnata

**CYFRIFOL I **Pennaeth Busnes

**LLEOLIAD **Caernarfon

**ORIAU **37 awr

**CYFLOG **B3.5 (£23,022-£25-947)

**CYTUNDEB **Parhaol

**PRIF BWRPAS Y SWYDD**

Mae GISDA yn elusen sydd yn cefnogi a rhoi cyfleoedd i bobl ifanc bregus a digartref
Gwynedd ers dros 35 o flynyddoedd. Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig ac egniol i chwarae rhan allweddol yn hyrwyddo, marchnata, monitro a mesur effaith gwaith, gwasanaethau a brand GISDA i godi ymwybyddiaeth o'r hyn mae GISDA yn ei wneud a chynyddu cefnogaeth

**CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL**

**Dysgu a deall am brosiectau GISDA**
Bydd hi'n hanfodol bod deilydd y swydd yn treulio amser gyda phrosiectau GISDA er mwyn deall y gwaith yn arbennig yr effaith cadarnhaol i fywydau pobl ifanc. O hynny bydd angen creu adroddiadau byr i rannu a hyrwyddo'r gwaith gydag amryw o gynulleidfaoedd gwahanol o gyllidwyr i gefnogwyr yn y cyhoedd a negeseuon i bobl ifanc.

**Hyrwyddo a Marchnata**
- Datblygu a chydlynu ymgyrchoedd marchnata i amrywiol gwasanaethau a phrosiectau

GISDA
- Cydlynu Strategaeth Cyfathrebu GISDA, dilyn amserlen a sicrhau cysondeb mewn cyfathrebu negesau allweddol
- Datblygu cynllun 'Cyfeillion GISDA' a chydlynu newyddlen GISDA
- Cyfrannu at elfennau cyfathrebu Strategaeth Codi Arian GISDA yn cynnwys ymgyrchoedd cymunedol a chyfathrebu'n rheolaidd efo cefnogwyr GISDA
- Trefnu a chydlynu digwyddiadau hyrwyddo uniongyrchol
- Cyfranu at wella 'brand' a delwedd cyhoeddus GISDA

**Cyfryngau Cymdeithasol**
- Cydlynu a gweithredu cynnwys ac ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol GISDA gan sicrhau cysondeb efo Strategaeth Cyfathrebu GISDA
- Cydlynu calendr golygyddol cyfryngau cymdeithasol a phostio straeon, gwybodaeth a newyddion yn rheolaidd
- Monitro cyrrhaeddiad postiau cyfryngau cymdeithasol a darparu adroddiadau rheolaidd disgrifiad swydd - Cydlynydd Cyfathrebu Gorffenaf 2023

**Gwefan**
- Prif weinyddwr cynnwys gwefan GISDA
- Gweithio efo staff i ddatblygu cynnwys cyfredol, perthnasol a chyffrous yn rheolaidd
- Monitro ac adrodd yn rheolaidd ar 'analytics' y wefan
- Diweddaru'r rhan 'Newyddion' yn rheolaidd

**Monitro**
- Casglu a chydlynu data ar holl wasanaethau a gweithgareddau GISDA a chreu adroddiadau rheolaidd i ddangos effaith gwaith y cwmni
- Monitro ac asesu effeithiolrwydd strategaethau cyfathrebu GISDA a datblygu adroddiadau rheolaidd
- Trefnu a chydlynu cyfarfodydd mewnol ac allanol yn ol yr angen

**Comisiynu a phrynu**
- Arwain ar gydlynu briffiau penodol i gytundebu gwaith gydag arbenigwyr gwahanol e.e. o Briff ail frandio prosiectau GISDA o Briff creu adroddiadau gan arbenigwyr allanol o Briff dyluniadau penodol o Prynu adnoddau marchnata pan fo'r angen e.e. cynnyrch bach, pop ups ayyb

**Codi Ymwybyddiaeth**
- Mynychu ffeiriau a digwyddiadau i hyrwyddo gwaith GISDA
- Mynychu cyfarfodydd allanol i gyflwyno gwaith GISDA
- Rhannu ein newyddion gyda chyfryngau allanol e.e. teledu, radio, papurau bro ayyb

**CYFRIFOLDEBAU CYFFREDINOL**
- Cyfrannu tuag at hyfforddiant a datblygiad personol eich hun.
- Hyrwyddo agwedd gyfeillgar, anfarnol, gwrth-wahaniaethol ym mhob agwedd o'r gwaith tuag at ddefnyddwyr gwasanaeth, cyd-weithwyr, aelodau o'r Bwrdd Rheoli ac aelodau o'r cyhoedd / asiantaethau eraill.
- Hyrwyddo gwerthoedd a diwylliant mewnol y Cwmni.
- Hyrwyddo nod ac amcanion y Cwmni.
- Ymgymryd ag unrhyw dasgau rhesymol yn ôl yr angen.
- Ymlynu at holl bolisïau a gweithdrefnau cyfredol y Cwmni.
- Cyfrannu at sesiynau arolygaeth.
- Cadw holl wybodaeth sy'n berthnasol i'r Cwmni, y staff a defnyddwyr gwasanaeth y

Cwmni yn gyfrinachol.

Ni all unrhyw ddisgrifiad swydd gwmpasu pob mater a all godi yn y rôl ar wahanol adegau.
Er mwyn cynnal gwasanaeth effeithiol efallai y bydd gofyn i chi ymgymryd ag unrhyw dasgau rhesymol eraill sy'n weddol gyson â'r rhai yn y ddogfen hon fel y penderfynir gan eich pennaeth adran disgrifiad swydd - Cydlynydd Cyfathrebu Gorffenaf 2023

**MANYLDEB PERSON**

**MEINI PRAWF HANFODOL DYMUNOL DULL ASESU**
**Addysg a **TGAU Cymraeg a Gradd neu cymhwyster Ffurflen Gais a
**Chymhwysterau **Saesneg arall mewn maes Thystysgrifau
perthnasol

**Profiad Perthnasol i **Profiad o weithio'n Profiad o lunio Ffurflen Gais a
**Swydd **rhagweithiol ar newyddlen Chyfweliad
brosiectau/tasgau

Profiad o weithio mewn Ffurflen Gais a maes marchnata Chyfweliad

Profiad o gydlynu Ffurflen Gais a ymgyrchoedd marchnata Chyfweliad

Profiad o drefnu/cydlynu Ffurflen Gais a digwyddiadau Chyfweliad

Profiad o weithio efo Profiad o weinyddu pobl ifanc gwefan

**Gwybodaeth Perthnasol ** Gwybodaeth am Ffurflen Gais a
**i Swydd **farchnata Chyfweliad

Gwybodaeth am y maes Ffurflen Gais a digartrefedd a phobl Chyfweliad ifanc

**Sgiliau Perthnasol i **Y gallu i ddefnyddio Profiad o weinyddu Ffurflen Gais a
**Swydd **rhaglenni cyfrifiadurol a gwefan Chyfweliad
fyddai'n berthnasol i'r swydd e.e. piktochart, canva, publisher, photoshop

Sgiliau technoleg Profiad o

More jobs from GISDA