Darlithydd: Mathemateg Tgau - Neath, United Kingdom - NPTC Group of Colleges

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
Mae gennym uchelgais mawr i fod yn ddarparwr addysg blaenllaw yn y sector ac fe hoffem i chi chwarae rhan yn hyn o beth. Os ydych chi'n angerddol dros Addysg ac eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, daliwch ati i ddarllen. Dim cymhwyster addysgu? Dim problem - efallai y gellir darparu hyfforddiant

**Ynglyn â ni**: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.

Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau'r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda'n staff addysgu hynod gymwys a'u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.

**Pam y dylech chi weithio i ni? **Yn ogystal â chynnig cyflogau cystadleuol rydym hefyd yn cynnig cynllun pensiwn buddion diffiniedig, gyda buddion fel marwolaeth yn ystod gwasanaeth i enwi ond un ac am bob £100 a enillwch rydym ar hyn o bryd yn cyfrannu £23.68. Mae rhagor o wybodaeth i'w gweld yma Beth yw pensiwn athro? | Dechreuwr Newydd | Pensiynau Athrawon ) Yn ogystal â hyn rydym yn cynnig parcio am ddim a hawl hael i wyliau o 46 diwrnod y flwyddyn, ynghyd â hyd at 5 diwrnod cau y flwyddyn. Mae gweithio hyblyg ac ystwyth ar gael i staff sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd ynghyd â'r cyfle i wneud cais am absenoldeb sabothol a rhannu swydd. I rieni a gofalwyr mae help wrth law hefyd gyda darpariaeth gofal plant ym Meithrinfa Ddydd Lilliput Coleg Castell-nedd sy'n cynnig gostyngiad o 10% i staff. Mae gwasanaethau cymorth staff yn cynnwys mynediad at ddarpariaeth iechyd galwedigaethol yn ogystal â mynediad at y Llinell Gymorth i Gyflogeion, sy'n Wasanaeth Rheoli Bywyd a Chymorth Personol cyfrinachol 24 awr. Mae gan staff fynediad hefyd at Gydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig. Mae'r Coleg yn hyrwyddo diwylliant o ddatblygiad proffesiynol parhaus ac yn cynnig ystod eang o gyfleoedd datblygu i'r holl staff. Yn ogystal â chyflwyno sesiynau allweddol i uwchsgilio a chodi ymwybyddiaeth mae'r Coleg yn cynnig cyfleoedd i staff cymorth ac academaidd ddatblygu eu sgiliau proffesiynol. Mae'r dyfodol yn sicr yn ddisglair yng Ngrwp Colegau NPTC.

More jobs from NPTC Group of Colleges