Crefftwr (Medrus) Tai a Chymunedau Gradd 6 - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

2 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Nod Cyngor Caerdydd yw darparu gwasanaeth hygyrch o ansawdd uchel wrth gyflawni ei swyddogaethau i gynnal a chadw 13,808 eiddo domestig y Cyngor a thua 9 adeilad llety â chymorth. Mae hefyd yn gyfrifol am 9 bloc o fflatiau uchel, yn ogystal â Chyfadeiladau Byw yn y Gymuned.

Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Crefftwyr Medrus gyda'r Uned Cynnal a Chadw Ymatebol, ac mae 6 swydd wag ar gael ar hyn o bryd yn y crefftau canlynol:
Saer Coed x 2

Peintiwr ac Addurnwr x 3

Plastrwr x 1

**Am Y Swydd**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn sicrhau y darperir gwasanaeth cynnal a chadw ymatebol, drwy sicrhau yr eir i'r afael â'r atgyweiriadau a'u cwblhau o fewn amserlenni, gan roi gwasanaeth gwych i denantiaid o fewn maes eu crefft penodol eu hunain.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus NCQ2, City and Guilds neu gymhwyster cyfatebol yn y grefft berthnasol, a sgiliau cyfathrebu rhagorol gyda hanes cryf o weithio mewn gweithle adeiladu/cynnal a chadw.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys wrth weithio fel gweithredwyr symudol, gan drefnu a chyfathrebu yn ddyddiol â thenantiaid, staff gweinyddol a rheolwyr technegol dros y ffôn, dros e-bost a rhaglenni PDA.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
- I gael rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Leigh Brown neu Andy Jones ar

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw Cyflwyno Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd

Job Reference: PEO02850

More jobs from Cardiff Council