0.6 Darlithydd Mewn Busnes - Swansea, United Kingdom - Gower College Swansea

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**0.6 Darlithydd mewn Busnes**

**Amdanom ni**:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

**Y rôl**:
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ddarlithydd Busnes cymwysedig, profiadol, dawnus a brwdfrydig iawn i ymuno â'n Maes Dysgu Busnes a Thechnoleg.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn medru cyflwyno ac asesu ystod o gyrsiau Lefel 2 - 5 ym maes Busnes; Busnes Galwedigaethol yn bennaf.
- ** awr yr wythnos)**:

- ** Parhaol**:

- ** £14,429 - £28,398 y flwyddyn**:

- ** Campws Gorseinon & Tycoch**

**Cyfrifoldebau Allweddol**:

- Cynllunio, paratoi ac addysgu ar draws amrywiaeth o gyrsiau gan sicrhau bod cynlluniau/cofnodion gwaith ac amserlenni aseiniadau yn briodol i gynnwys y maes llafur a safonau'r corff dyfarnu.
- Sicrhau bod strategaethau addysgu a dysgu a deunyddiau addysgu yn cael eu cynllunio yn ogystal â bod yn hygyrch i ateb anghenion amrywiol yr holl ddysgwyr, a bod mentrau Llywodraeth Cymru e.e. Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang, Ethos Cymreig, Sgiliau Hanfodol a Chyflogadwyedd yn cael eu hymgorffori a'u hasesu'n effeithiol.
- Asesu a monitro cynnydd dysgwyr, gan gynnwys gosod targedau, cadw cofnodion o waith a chyflawniad yn unol ag amserlenni/meini prawf mewnol ac allanol a thargedau'r Coleg.
- Cadw i fyny â datblygiadau'r cwricwlwm, gwybodaeth o'r pwnc a mentrau addysgu a dysgu, gan gynnwys defnyddio technoleg ddigidol a sicrhau bod deunyddiau a strategaethau addysgu yn cael eu diweddaru'n briodol.

**Amdanoch chi**:

- Cymhwyster proffesiynol neu radd gyntaf mewn maes perthnasol neu'r cyfwerth
- Cymhwyster addysgu/hyfforddi neu fod yn barod i weithio tuag at ei ennill a/neu wybodaeth o gorffori Sgiliau Allweddol yn y cwricwlwm perthnasol.
- Gallu addysgu cyrsiau Lefelau 1-3
- Arbenigedd mewn addysgu llwyddiannus

**Buddion**:

- 46 diwrnod pro rata o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae'r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
- Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 23% ar gyfartaledd (2023)
- 2 ddiwrnod lles i staff
- Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corff
- Disgownt ar gyfer aelodaeth Campfa Chwaraeon - £60 y flwyddyn
- Tanysgrifiad blynyddol am ddim i ap Headspace Mindfulness
- Diodydd poeth am ddim pan fyddwch yn defnyddio cwpan amldro
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad._

Os hoffech ymgymryd â'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
- Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno'ch cais yn gynnar. _

**Llawn Amser Cyfatebol Cyflog**:£24,049 - £47,331 **y flwyddyn yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.

More jobs from Gower College Swansea