Darlithydd: Gwaith Coed a Gwaith Saer - Newtown, United Kingdom - NPTC Group of Colleges

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
Mae gennym uchelgeisiau mawr i fod yn ddarparwr addysg sy'n arwain y sector a hoffem i chi chwarae rhan yn hyn. Os ydych chi'n angerddol dros Addysg ac eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, daliwch ati i ddarllen. Dim cymhwyster addysgu? Dim problem - efallai y gellir darparu hyfforddiant

Band A. Oriau dysgu blynyddol: gan gynnwys ambell fore cynnar, gyda'r nos ac ar benwythnosau).

Parhaol, hyblyg ffracsiynol.

Graddfeydd Darlithydd Cyswllt 1 - 4, £22,904 - £27,029 y flwyddyn, pro rata. Graddfeydd Prif Raddfa 1 - UP1, £29,162 - £41,915 y flwyddyn, pro rata (ar gyfer darlithwyr cymwysedig).

**Ynglyn â chi**:Bydd gan ein hymgeisydd delfrydol gymhwyster addysgu (efallai y darparir hyfforddiant) ynghyd â chymhwyster NVQ Lefel 3/Tystysgrif Crefft Uwch mewn Gwaith Coed a Gwaith Saer ynghyd â phrofiad perthnasol. Mae angen hefyd gymwysterau Lefel 2 mewn Mathemateg a Saesneg (TGAU neu gyfwerth). Gyda'r effaith y mae'r byd digidol yn ei chael ar ddysgu ac addysgu bydd angen i ymgeiswyr hefyd fod yn hyddysg mewn TG hyd at lefel 2 o leiaf.

**Ynglyn â ni**: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.

Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau'r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda'n staff addysgu hynod gymwys a'u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.

**Pam y dylech chi weithio i ni? **Yn ogystal â chynnig cyflogau cystadleuol, ein cynlluniau pensiwn yw rhai o'r cynlluniau gorau sydd ar gael. Caiff eu gweithredu gan LGPS neu TPS gan ddarparu pensiynau sy'n cael eu cynyddu bob blwyddyn yn unol â'r gyfradd chwyddiant. Am bob £100 a enillwch rydym yn cyfrannu mwy na £21 at eich pensiwn.

Mae'r lwfans gwyliau yn ffantastig o'r cychwyn cyntaf ym mlwyddyn 1. Mae gennych 46 o ddiwrnodau o wyliau'r flwyddyn am ein bod yn cau'r Coleg am hyd at 5 niwrnod dros y Nadolig, sy'n golygu bod gennych hyd at 5 niwrnod ychwanegol o wyliau'r flwyddyn. Gydag 8 gwyl banc/cyhoeddus ar ben hynny, gallech fanteisio ar 59 diwrnod o wyliau fel rheolwr. Cydbwysedd bywyd a gwaith go iawn

Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys absenoldeb sabothol a rhannu swydd, lle mae'n bodloni anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim i iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth Cymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae'r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Lles ymroddedig, sy'n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau lles rhad ac am ddim.

Rydym yn cynnig parcio am ddim ym mhob prof campws yn ogystal â llefydd storio beiciau ac yn y De gyda darpariaeth gofal plant ym Meithrinfa Ddydd Lilliput Coleg Castell-nedd rydym yn cynnig gostyngiad o 10% i staff.

Fel sefydliad addysgol, mae'r Coleg yn hyrwyddo diwylliant o ddatblygiad proffesiynol parhaus ac yn cynnig ystod eang o gyfleoedd datblygu i'r holl staff; efallai y bydd modd i ni gyfrannu at ffioedd graddau uwch neu gymwysterau eraill a all eich helpu gyda'ch swydd.

At hyn oll, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi'r haint i ni allu helpu ein dysgwyr a'n cymunedau i lwyddo a ffynnu.

Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig

More jobs from NPTC Group of Colleges