Crefftwr Tai a Chymunedau - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council
Description
**Am Y Gwasanaeth**Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Crefftwr Medrus gyda'r Uned Cynnal a Chadw Ymatebol.
**Am Y Swydd**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn sicrhau bod gwasanaeth atgyweirio ymatebol gwych yn cael ei roi, drwy sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud a'i gwblhau o fewn amserlenni, gan roi gwasanaeth gwych i denantiaid yn eu crefft benodol eu hunain.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar y cymwysterau hanfodol canlynol:
- Gofynion BS7671 ar gyfer Gosodiadau Trydanol - 18fed Argraffiad
- Prentisiaeth drydanol gydnabyddedig **neu **gymhwyster NVQ Lefel 3 cydnabyddedig
- Cymhwyster Arolygu a Phrofi cydnabyddedig
- Gofynion BS7671 ar gyfer Gosodiadau Trydanol - 18fed Argraffiad **Diwygiad 2 (neu rhaid ei gael o fewn 6 mis i gychwyn yn y rôl)**Rhaid i chi hefyd feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol gyda hanes cryf o weithio mewn gweithle adeiladu/cynnal a chadw.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys wrth weithio fel peiriannydd symudol, a threfnu a chyfathrebu yn ddyddiol â thenantiaid, staff gweinyddol a Rheolwyr Trydanol Cymwys dros y ffôn, mewn e-bost a cheisiadau PDA.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
- I gael rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Joseph Hobbs ar neu Shaun O Connor ar
Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Bydd y cyfweliad hwn yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb mewn Adeilad y Cyngor.
Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd
Job Reference: PEO02760
More jobs from Cardiff Council
-
Tenancy Officer
Cardiff, United Kingdom - 3 weeks ago
-
Swyddog Gofal Plant Preswyl
Cardiff, United Kingdom - 1 week ago
-
Cogydd Arweiniol
Cardiff, United Kingdom - 3 weeks ago
-
One Planet Support Officer
Cardiff, United Kingdom - 3 weeks ago
-
Occupational Therapy Assistant X2
Cardiff, United Kingdom - 2 days ago
-
Cynorthwyydd Gofal a Lles
Cardiff, United Kingdom - 2 weeks ago