Swyddog Cymorth Gweinyddol - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

2 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Byddwch yn gweithio i un o'r cyflogwyr mwyaf yng Nghymru, gan ymuno â grŵp profiadol a brwdfrydig o Swyddogion o fewn y Gwasanaeth Cynllunio sy'n ffurfio rhan o'r gyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd. Mae gwneud gwahaniaeth cadarnhaol a chyflawni canlyniadau go iawn ar lawr gwlad yn bwysig iawn i'r tîm.

**Am Y Swydd**
Swyddog gweinyddol yn y Tîm Cofrestru yw'r swydd hon, sy'n gyfrifol am gofrestru a dilysu ceisiadau cynllunio a thasgau cysylltiedig. Caerdydd sy'n derbyn y nifer fwyaf o geisiadau cynllunio yng Nghymru, yn ymwneud â phob math o ddatblygiad a'r swydd hon yn aml yw'r pwynt cyswllt cyntaf gydag ymgeiswyr ac asiantau sy'n cyflwyno ceisiadau cynllunio. Mae'r Tîm yn perfformio'n dda ac mae'r lefelau o foddhad cwsmeriaid yn uchel er gwaethaf y llwyth achos mawr. Wrth helpu i reoli'n effeithiol sut mae Caerdydd yn datblygu, bydd deiliad y swydd yn ymuno â'r Tîm i roi cymorth, gan gefnogi Swyddogion Cynllunio gydag asesu ceisiadau o ran ansawdd a chywirdeb, derbyn taliadau a sicrhau bod cofnodion yn cael eu creu a'u diweddaru. Mae ymateb i ymholiadau drwy e-bost a ffôn hefyd yn rhan o'r rôl. Mae manylion llawn dyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd yn y Disgrifiad Swydd.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am unigolyn brwd iawn sy'n gallu darparu cymorth effeithlon ac effeithiol i'r gwasanaeth cynllunio a rheoli llwyth gwaith prysur ac amrywiol o ymholiadau cynllunio cyffredinol. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a TG da a phrofiad o ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y cwsmer mewn amgylchedd proffesiynol. Mae profiad blaenorol o weithio mewn rôl awdurdod lleol neu ddatblygu eiddo yn ddymunol.

**Gwybodaeth Ychwanegol** Mae'r cyflog hwn yn cynnwys tâl atodol y Cyflog Byw sy'n cynyddu'r cyfraddau tâl i £9.90 yr awr (pcg 1-3). Caiff y tâl atodol hwn ei adolygu ym mis Ebrill 2023 a phob mis Ebrill ar ôl hynny. Ceidw Cyngor Caerdydd yr hawl i wneud unrhyw newidiadau i dâl atodol y Cyflog Byw neu ei ddileu.**

Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PLA00235

More jobs from Cardiff Council