Current jobs related to Research Associate - London - Cardiff University / Prifysgol Caerdydd
-
Expert Research Associate
1 month ago
Only for registered members London事業会社・コンサルティング・投資ファンド等のクライアントが直面する意思決定課題に対し、最適な業界エキスパートを迅速に見つけてつなぎ、1対1のオンラインコンサルテーションを確実に実行すること。知識への障壁を取り除き、一次情報に基づく判断を支援する。 · クライアント要件の理解とスコープ定義、エキスパートの探索・評価(ソーシング/ベッティング)、コンプライアンス審査・レート交渉・スケジューリングなどを行う。 · ...
-
Expert Research Associate
1 month ago
Only for registered members London, England事業会社やコンサルティング、投資ファンドなどのクライアントが直面する意思決定問題に対して、最適な業界のエキスパートを迅速に見つけてつなぎ、1対1のオンラインコンサルテーションを確実に実行し、情報に基づく判断を支援します。 · ...
-
Research Associate
5 days ago
Only for registered members United KingdomTŷ cyflawn amser (35 awr yr wythnos) sydd ar gael. · Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych gan gynnwys ciniodau banc diwrnodog, pencampwaith pensiwn lleol a mentrau teithio. · ...
-
Research Associate
1 month ago
Only for registered members London £41,064 - £46,049 (GBP)Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn chwareg yr unig dyfodaiwert £9 miliwn ariannid gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Llywodraeth Cymru. · ...
-
Research Associate
1 week ago
Only for registered members United KingdomCydymaith Ymchwil (Biowybodegydd) brwdfrydig a phrofiadol i ymuno â grŵp ymchwil yr Athro Valentina Escott-Price. · ...
-
Research Associate
1 day ago
Only for registered members United KingdomRydym yn mynd i fynd ati · i ddatrys heriau cynhwysion mewn ymchwil. · Mae gan Gymuned Prifysgol Caerdydd gefnogaeth ryngwladol. · Nicwlir ddewis eich cychwynniad gyda ni. · ...
-
Research Associate
1 week ago
Only for registered members United KingdomCydymaith Ymchwil i weithio yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol.Cydymaith Ymchwil sy'n dymuno gyflawni · cynnig allbynnau mesuradwy · ...
-
Research Associate/Senior Research Associate
1 month ago
Only for registered members London $110 059 - $127 947 (AUD)The UNSW-UTS Trustworthy Digital Society brings together experienced voices from both University and Industry with the aim to facilitate the creation of a digitally enabled society that is equitable, inclusive, · and sustainable.We work towards a world where everyone can particip ...
-
Research Associate
4 weeks ago
Only for registered members LondonThe Research Associate role provides a foundation in consulting and governance and an accelerated Consulting Career Path. · This opportunity allows you to work with clients internationally at the most senior level, fast-track your personal and professional development. · ...
-
Research Associate
2 weeks ago
Only for registered members LondonThe Rosenblatt lab studies how epithelia maintain a functional barrier and proper cell numbers.Due to the significant role extrusion plays in epithelial cell death, a variety of diseases can result when it is misregulated. · A research associate will be selected to investigate ho ...
-
Research Associate
2 weeks ago
Only for registered members LondonThis talented individual will participate in cutting-edge cardiovascular research projects using experimental techniques including in vivo physiology,molecular biology,biochemistry,and histology. ...
-
Research Associate
1 month ago
Only for registered members LondonThe Department of Informatics is looking to appoint a Research Associate to work in the area of Cryptography. · The candidate will work alongside Prof. Martin Albrecht and other cryptographic researchers in the department on topics in lattice-based cryptography and related fields ...
-
Research Associate
1 month ago
Only for registered members LondonWe are looking for a Research Associate to join our newly funded Centre of Excellence in Paediatric Palliative Care at King's College London. · The research associate will work closely with Professor Lorna Fraser on an economic evaluation and systemic review with Dr Victoria Fish ...
-
Research Associate
1 month ago
Only for registered members LondonJoin Newmark's London office as a Research Associate and contribute to the company's award-winning research. You will take supported ownership of Newmark's research outputs for the UK logistics and multi-let industrial sectors, maintaining and developing existing industrial resea ...
-
Research Associate
3 weeks ago
Only for registered members LondonAs a Research associate you will own the research and outreach activity that fuels successful mandates. · ...
-
Research Associate
1 month ago
Only for registered members London AreaNewmark's advice is underpinned by its award-winning research. The Research team supports many aspects of the fee-generating business through regular and thematic reports and presentations along with various ad-hoc internal and client interactions. · Collect and clean data to mai ...
-
Research Associate
1 month ago
Only for registered members LondonThe Rosenblatt lab studies how epithelia maintain a functional barrier and proper cell numbers.The research associate will investigate how metabolism and mitochondrial membrane potential impacts epithelial cell extrusion of normal and transformed cells. · PhD qualified in relevan ...
-
Research Associate
2 weeks ago
Only for registered members London, England+The research associate will be selected to investigate how metabolism and mitochondrial membrane potential impacts epithelial cell extrusion of normal and transformed cells.+PhD qualified in relevant subject area · Must have at least 5 years training in cell biology techniques · ...
-
Research Associate
4 weeks ago
Only for registered members London AreaWe are looking for a driven individual to join our team as a Research Associate. This role provides a foundation in consulting and governance and an accelerated Consulting Career Path. · The successful candidate will have the opportunity to work with clients internationally at th ...
-
Research Associate
5 hours ago
Only for registered members London Full timeAs a Research associate you will own the research and outreach activity that fuels successful mandates. You will combine data market knowledge and communication skills to deliver insights strengthen candidate pipelines and support Partners and clients in making confident hiring d ...
-
Researcher / Associate
6 days ago
Only for registered members London, England, United KingdomVoltR2R is on the hunt for a researcher for a people & socially responsibility focused search firm. One that has been delivering outstanding service and impressing the industry with their outlook supporting clients and candidates across the globe. · ...
Research Associate - London - Cardiff University / Prifysgol Caerdydd
Description
Cydymaith YmchwilCanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, sy'n cael ei hariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Phrifysgol Caerdydd, yn pontio'r bwlch rhwng y byd academaidd a llunwyr polisïau/ymarferwyr trwy gynhyrchu a defnyddio tystiolaeth o ymchwil sy'n gwella penderfyniadau am bolisïau a gwasanaethau cyhoeddus.
Daw staff y Ganolfan o sawl cefndir gwahanol – ymhlith y rhain mae'r byd academaidd, y gwasanaeth sifil, y gwasanaeth iechyd, llywodraeth leol, melinau trafod a'r sector gwirfoddol.
Mae'r Ganolfan yn aelod o rwydwaith What Works y DU. Mae'r Ganolfan yn cydweithio ag ymchwilwyr blaenllaw o bob cwr o'r DU ac yn rhyngwladol i gynhyrchu, cywain a defnyddio tystiolaeth ymchwil y gellir ei defnyddio i fynd i'r afael â heriau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol dybryd. Gall y staff fanteisio ar y cyfle i weithio gydag uwch-lunwyr polisïau ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus sy'n eu galluogi i sicrhau effaith eu hymchwil yn genedlaethol ac yn lleol.
Rydyn ni am recriwtio unigolyn arbennig i gyfrannu at ein gwaith gyda gwasanaethau cyhoeddus a Llywodraeth Cymru. Mae'r swydd yn gyfle unigryw i reoli a gwneud ymchwil polisi o safon uchel, gan weithio'n agos gydag ymchwilwyr a llunwyr polisïau blaenllaw sydd wrth wraidd datblygiadau a dadleuon polisi cyfredol, yn enwedig wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, yr amgylchedd a sero net, a lles cymunedol.
Mae'n rhaid ichi feddu ar ddealltwriaeth dda o bolisi cyhoeddus; y gallu i weithio'n uniongyrchol gydag arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus; ymrwymiad i ymchwil o safon sy'n berthnasol i fyd polisi; sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol; a'r gallu i weithio'n rhan o dîm ehangach y Ganolfan.
Mae'r swydd ar gael tan 31 Mawrth 2028 gyda'r posibilrwydd o'i hadnewyddu wedi hynny yn amodol ar gyllid pellach. Mae'r Ganolfan yn cynnig gweithle ysgogol a chefnogol gyda threfniadau gweithio hyblyg; cynllun pensiwn hael y Brifysgol; cyfoeth o gyfleoedd hyfforddi; a chartref yn adeilad newydd Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SBARC) ar Gampws Arloesi Caerdydd gwerth £300 miliwn. Mae'r Ganolfan yn cefnogi gweithio hybrid a bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod ar gael i weithio o'i swyddfeydd yng Nghaerdydd un neu ddau ddiwrnod yr wythnos (gyda rhywfaint o hyblygrwydd). Byddwn ni'n ystyried ceisiadau i ymuno â'r Ganolfan ar secondiad am 12 mis o leiaf.
Gofynnir i ymgeiswyr ateb y cwestiynau canlynol ar ddechrau eu datganiad ategol. Dylai eich ateb fod mor gryno â phosibl ac ni ddylai fod yn hwy na 200 gair.
Cwestiwn 1: Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn darparu tystiolaeth i alluogi awdurdodau lleol, byrddau iechyd a chyrff cyhoeddus eraill i ddod o hyd i ffyrdd o wella penderfyniadau am bolisïau a gwasanaethau cyhoeddus.
Sut byddech chi'n mynd ati i ddod o hyd i'r materion polisi y dylem weithio arnyn nhw gyda'r sefydliadau uchod dros y chwe mis nesaf? Pa feini prawf y byddech chi'n eu defnyddio i roi'r materion a ddewiswyd yn nhrefn blaenoriaeth?
Cwestiwn 2: Mae'r Ganolfan yn gwneud y rhan fwyaf o'i gwaith mewn partneriaeth ag arbenigwyr o brifysgolion a sefydliadau ymchwil eraill. Dychmygwch fod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi gofyn i ni ddarparu tystiolaeth ar yr hyn y gall gwasanaethau lleol ei wneud i fynd i'r afael â thlodi yn eu hardal. Mae angen adroddiad arnyn nhw ymhen tri mis i lywio eu Cynllun Lles.
Sut byddech chi'n dod o hyd i'r arbenigwyr gorau i weithio gyda ni ar y prosiect hwn? Pa rwystrau posibl y gallech ddod ar eu traws wrth sicrhau eu syniadau a sut byddech chi'n goresgyn y rhain? Sut byddech chi'n sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn ymgysylltu â'r prosiect?
Cyflog: £40,497 - £45,413 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 6).
Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 23 Hydref 2025
Dyddiad cau: Dydd Iau, 20 Tachwedd 2025
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned beth bynnag fo'u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi'i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd
Prif Swyddogaeth
Rheoli, comisiynu, cynnal a defnyddio tystiolaeth ymchwil ac arbenigedd o ansawdd uchel sy'n cynorthwyo arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus a gweinidogion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â heriau polisi dybryd ac sy'n annog diwylliant o ddefnyddio tystiolaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
Ymchwil
Cyfrannu at nodi anghenion tystiolaeth gwasanaethau cyhoeddus a llunwyr polisi yng Nghymru.
Rheoli prosesau i nodi a gwerthuso prosiectau ymchwil posibl ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus.
Gweithio gydag arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus mewn ffyrdd newydd ac arloesol i adolygu a chyfuno tystiolaeth ymchwil i nodi canfyddiadau ac argymhellion sy'n berthnasol i bolisi.
Comisiynu, rheoli a sicrhau ansawdd ymchwil a gomisiynir gan arbenigwyr polisi.
Cyfrannu at ddylunio a chyflawni mentrau i ymgorffori'r defnydd o dystiolaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Lledaenu canfyddiadau ymchwil i arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus, llunwyr polisi ac eraill trwy adroddiadau difyr, briffiau polisi, blogiau, cyfryngau cymdeithasol a phodlediadau.
Dylunio a hwyluso gweithdai, cyfarfodydd bord gron a digwyddiadau gydag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys arbenigwyr academaidd, arbenigwyr yn ôl profiad, arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus, llunwyr polisi a rhanddeiliaid eraill.
Hybu ymwybyddiaeth o waith y ganolfan ac ymgysylltu â'r gwaith hwnnw ymhlith llunwyr polisi, ymarferwyr a rhwydweithiau ymchwil.
Cyfrannu at weithgareddau eraill sy'n gwella effaith ymchwil, megis ymgysylltu â chyfryngau lleol a chenedlaethol.
Cymryd rhan mewn rhwydweithiau y tu mewn a'r tu allan i'r brifysgol er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau, chwilio am ofynion ymchwil yn y dyfodol a rhannu syniadau ymchwil er budd prosiectau ymchwil.
Arall
Ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol sy'n addas o ran perfformiad ac a fydd yn gwella perfformiad.
Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi'u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â'r swydd
GWYBODAETH AM Y CAIS
Nodyn pwysig: Polisi'r Brifysgol yw defnyddio manyleb y person fel arf allweddol ar gyfer rhestru byr. Dylai ymgeiswyr ddangos eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol yn ogystal â'r rhai dymunol, lle bo hynny'n berthnasol. Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir i chi ddarparu'r dystiolaeth hon drwy ddatganiad ategol. Sicrhewch fod y dystiolaeth yr ydych yn ei darparu yn cyfateb i'r meini prawf wedi'u rhifo a amlinellir uchod (20431BR) . Bydd eich cais yn cael ei ystyried yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir gennych o dan bob elfen.
Ysgol Busnes Caerdydd
Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn ysgol fusnes a rheoli flaenllaw yn y DU, yn cynnal achrediadau AACSB ac AMBA ac yn y 1af safle 1af am ei Hamgylchedd Ymchwil a'i 2il ar Bŵer Ymchwil (REF2021). Mae gan yr Ysgol bwrpas Gwerth Cyhoeddus ac mae'n canolbwyntio ar gyd-greu addysg a gwybodaeth o ansawdd uchel, rhyngddisgyblaethol sy'n darparu gwerth economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae gweithgareddau'r Ysgol yn gogwyddo tuag at bum Her Fawr: Gwaith gweddus, economïau teg a chynaliadwy, sefydliadau yn y dyfodol, llywodraethu da, ac arloesedd cyfrifol.
Meini Prawf Hanfodol
Cymwysterau ac Addysg
Gradd ôl-raddedig mewn maes pwnc cysylltiedig, neu brofiad proffesiynol cyfatebol perthnasol.
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
Arbenigedd sefydledig a phortffolio â thystiolaeth o ymchwil polisi a/neu reoli ymchwil, casglu gwybodaeth yn effeithiol ac effaith ymchwil.
Y gallu amlwg i ymgysylltu â gwasanaethau cyhoeddus a/neu lywodraeth mewn ffyrdd arloesol i annog y defnydd o dystiolaeth i wella polisïau ac arferion.
Dealltwriaeth o'r rhwystrau ynghlwm wrth ddefnyddio tystiolaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus a/neu lywodraeth ac o ddulliau ymarferol sy'n goresgyn y rhain.
Profiad o ddatblygu a sicrhau'r gwaith o ymgysylltu â rhanddeiliaid a rheoli'r gweithgarwch hwn.
Gwybodaeth am faterion polisi cyhoeddus cyfredol yng Nghymru a'r tu hwnt.
Cyfathrebu a Gweithio Mewn Tîm
Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ac yn argyhoeddiadol – yn ysgrifenedig ac wyneb yn wyneb – ag ystod amrywiol o randdeiliaid gan gynnwys arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus a llunwyr polisïau.
Y gallu i weithio'n effeithiol gyda chydweithwyr yn y Ganolfan ac ymchwilwyr yn y brifysgol ehangach a thu hwnt yn ogystal ag arbenigwyr yn ôl profiad a rhanddeiliaid eraill.
Arall
Y gallu i feithrin a chynnal perthnasoedd cryf â rhanddeiliaid allanol gan gynnwys arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus, gwleidyddion, gweision sifil a llunwyr barn eraill.
Y gallu i weithio'n gyflym ar draws ystod o brosiectau a meysydd polisi
Meini Prawf Dymunol
Profiad o weithio ym maes llywodraeth a/neu'r gwasanaethau cyhoeddus neu gyda'r rhain.
Gwybodaeth am lunio polisïau, meddwl drwy systemau, gwyddor gweithredu neu wyddor ymddygiadol.
Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg.
-
Expert Research Associate
Only for registered members London
-
Expert Research Associate
Only for registered members London, England
-
Research Associate
Only for registered members United Kingdom
-
Research Associate
Only for registered members London
-
Research Associate
Only for registered members United Kingdom
-
Research Associate
Only for registered members United Kingdom
-
Research Associate
Only for registered members United Kingdom
-
Research Associate/Senior Research Associate
Only for registered members London
-
Research Associate
Only for registered members London
-
Research Associate
Only for registered members London
-
Research Associate
Only for registered members London
-
Research Associate
Only for registered members London
-
Research Associate
Only for registered members London
-
Research Associate
Only for registered members London
-
Research Associate
Only for registered members London
-
Research Associate
Only for registered members London Area
-
Research Associate
Only for registered members London
-
Research Associate
Only for registered members London, England
-
Research Associate
Only for registered members London Area
-
Research Associate
Full time Only for registered members London
-
Researcher / Associate
Only for registered members London, England, United Kingdom