Board Member - Cardiff, United Kingdom - Ofcom

Ofcom
Ofcom
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

3 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
Closing Date:
18/08/2023

Group:
Corporate Group

Management Level:
**Job Type**:
Fixed Term (Fixed Term)

**Job Description**:
Mae Ofcom yn awyddus i recriwtio Aelod Anweithredol i ymuno â'i brif Fwrdd fel cynrychiolydd ar ran Cymru. Bydd yr unigolyn yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru (ar ôl ymgynghoriad â'r Ysgrifennydd Gwladol) a bydd ganddo'r un cyfrifoldebau DU gyfan ag aelodau anweithredol eraill o'r Bwrdd. Prif ddyletswydd Aelodau Bwrdd Ofcom yw sicrhau bod rhwymedigaethau statudol y rheoleiddiwr yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol ac yn effeithlon.
- Bydd gan y sawl a benodir ddealltwriaeth o'r meysydd mae Ofcom yn eu rheoleiddio, neu ddiddordeb ynddynt, sy'n cwmpasu'r sectorau darlledu a thelathrebu a llwyfannau rhannu fideos. Ar ôl i'r Bil Diogelwch Ar-lein gael Cydsyniad Brenhinol, bydd Ofcom hefyd yn ysgwyddo amrywiaeth o gyfrifoldebau rheoleiddio yng nghyswllt diogelwch ar-lein. Mae Ofcom hefyd yn gyfrifol am reoli a dyrannu'r defnydd o sbectrwm yn y DU.
- Bydd disgwyl i'r sawl sy'n cael ei benodi gymryd rhan mewn trafodaethau Bwrdd ar draws cylch gwaith Ofcom a gallu adlewyrchu a chynrychioli materion sy'n arbennig o berthnasol i Gymru a defnyddwyr yng Nghymru, gan hyrwyddo eu hanghenion i sicrhau'r canlyniad gorau posibl i ddefnyddwyr yng Nghymru. Bydd dealltwriaeth gadarn o faterion sy'n effeithio ar Gymru a defnyddwyr Cymru yn y meysydd sy'n cael eu rheoleiddio gan Ofcom yn hanfodol, gan gynnwys yr heriau sy'n wynebu defnyddwyr sy'n cael llai o wasanaeth, fel y rheini sy'n byw mewn ardaloedd gwledig anghysbell. Dylai hefyd fod yn gyfarwydd ag ymgysylltu â Seneddau a Llywodraethau, gan gynnwys mewn cyd-destun datganoledig.
- Meini Prawf Dethol Allweddol- Gallu cyfrannu, cefnogi a herio mewn dull adeiladol ar draws ystod cyfrifoldebau Ofcom fel Aelod Anweithredol o'r Bwrdd-
- Dealltwriaeth o faterion sy'n effeithio ar y sector cyfathrebiadau yng Nghymru-
- Gwybodaeth am y cyd-destun gwleidyddol a chyfansoddiadol yng Nghymru, a dealltwriaeth ohono-
- Gallu deall yr egwyddorion busnes ac economaidd sy'n sail i'r sectorau darlledu, telegyfathrebiadau a phost yn yr amgylchedd digidol-
- Gallu deall y sector ar-lein, gan gynnwys modelau busnes, datblygiadau a materion diogelwch ar-lein i ddefnyddwyr-
- Sgiliau gwneud penderfyniadau cryf a barn gadarn er mwyn sicrhau darpariaeth lwyddiannus mewn sefydliad cymhleth-
- Dealltwriaeth drylwyr a gwerthfawrogiad o anghenion siaradwyr Cymraeg a rhwymedigaethau Ofcom i ddarparu gwasanaethau yn ddwyieithog yng Nghymru, gan gynnwys yng nghyd-destun strategaeth Cymraeg 2050 a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011-
- Uniondeb personol uchel iawn-
- Dealltwriaeth amlwg o angen Ofcom i wneud penderfyniadau annibynnol sy'n seiliedig ar dystiolaeth.-
- Dealltwriaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad ac ymrwymiad iddynt, gan gynnwys y gallu i fyfyrio ar eich profiadau eich hun a dysgu ohonynt.- Cyfnod yn y swydd ac ymrwymiad amser
- Mae'r penodiad hwn yn para am hyd at 4 blynedd. Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymrwymo i hyd at ddau ddiwrnod yr wythnos. Yn ogystal â mynychu cyfarfodydd y Bwrdd, bydd disgwyl i'r aelod newydd wasanaethu ar un neu ragor o Bwyllgorau'r Bwrdd (gan gynnwys y Pwyllgorau Risg ac Archwilio a'r Pwyllgor Pobl.).
- Bydd y sawl sy'n cael ei benodi yn cynrychioli cynulleidfaoedd yng Nghymru ac yn gweithio gyda chyd-weithwyr Bwrdd ar draws gwledydd y DU. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus chwarae rhan allweddol o ran Pwyllgor Cynghori Cymru, a bod yn barod i'w gadeirio os bydd gofyn, yn ogystal â mynychu cyfarfodydd.
- Bydd pob ymgeisydd sy'n cyrraedd y rhestr fer yn cael cyfle i gael sesiwn friffio gan uwch swyddogion, ac eithrio unrhyw unigolyn sy'n chwarae rhan uniongyrchol neu anuniongyrchol ym mhroses benodi'r swydd hon. Nid yw'r sesiynau briffio hyn yn rhan o'r broses gyfweld ffurfiol.
- Rhaid i Aelodau Bwrdd osgoi unrhyw amheuaeth neu achosion go iawn o wrthdaro rhwng buddiannau, a datgan unrhyw fuddiannau gwirioneddol neu bosibl cyn derbyn eu penodiad. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus osgoi ymddygiad a allai ddwyn anfri ar Ofcom neu a allai greu canfyddiad o ragfarn/diffyg bod yn ddiduedd. Mae disgwyl i Aelodau Bwrdd gydymffurfio â Chod Ymddygiad Ofcom, sydd wedi'i atodi. Disgwylir i Aelodau gydymffurfio â'r holl Godau Ymddygiad perthnasol presennol, a rhai yn y dyfodol, a gyhoeddir gan Ofcom yn ogystal â'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau Bwrdd Cyrff Cyhoeddus.
- Bydd disgwyl i Aelodau o'r Bwrdd ddangos cyfrinachedd llwyr mewn perthynas â gwybodaeth neu ddeunyddiau a fydd yn cael eu rhoi iddynt ar gyfer eu dyletswyddau ar y Bwrdd ac mewn cysylltiad â hynny.
- Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yn ofyniad hanfodol ar gyfer y swydd.SUT I WNEUD CAIS:
Mae Goodson Thomas wedi'i benodi i recriwtio ar gyfer y rôl yma. I wneud cais, cyflwynwch CV a llythyr eglurhaol i Catrin Taylor

Y dyddiad cau ar gyfer ceisi

More jobs from Ofcom