Gweithiwr Cefnogi - Wrexham, United Kingdom - British Red Cross

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Gweithiwr Cefnogi Gwasanaeth - Adran Achosion Brys (3 swydd ar gael)**

**Lleoliad: Adran Achosion Brys Wrecsam Maelor, Ffordd Croesnewydd, Wrecsam LL13 7TD**

**Math o gontract: Achlysurol**

**Oriau'r wythnos: Yn ôl yr angen**

**Cyflog: £10.90 yr awr**

Ydych chi wrth eich bodd yn helpu pobl mewn angen? Ydych chi'n chwilio am rôl werth chweil a allai roi hwb i'ch gyrfa yn y sector iechyd a chymdeithasol?

Rydym yn chwilio am berson gofalgar a gwydn, sy'n gallu meddwl ar eu traed mewn amgylchedd dan bwysau i ymuno â'n tîm Byw'n Annibynnol fel Gweithiwr Cefnogi Gwasanaeth yn Adran Achosion Brys Maelor Wrecsam.

Wedi'ch lleoli mewn Adran Achosion Brys cyflym, prysur a dwys, byddwch yn darparu cymorth ymarferol ac emosiynol i gleifion. Byddwch yn cyflawni tasgau anfeddygol i ryddhau'r staff meddygol i allu canolbwyntio ar eu rôl glinigol a gwneud arhosiad ymwelwyr mor gyfforddus â phosibl.

**Bydd diwrnod ym mywyd Gweithiwr Cefnogi Gwasanaeth yn cynnwys**:

- Hebrwng cleifion i adrannau penodedig.
- Casglu presgripsiynau i gyflymu eu rhyddhau.
- Darparu cymorth emosiynol/gofal bugeiliol tra byddant yn aros am driniaeth.
- Darparu cefnogaeth emosiynol i ffrindiau agos a theuluoedd.
- Sicrhau bod cleifion yn cael bwyd/diod wrth aros am oriau hir a chynorthwyo gyda dosbarthu bwyd yn ystod amser bwyd.
- Gyrru cleifion adref ar ôl eu rhyddhau a gwneud yn siŵr eu bod wedi setlo gartref yn ddiogel.
- Cyfeirio cleifion at ffynonellau cymorth eraill yn y gymuned.

**Sylwch fod y gwasanaeth hwn yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul (gan gynnwys gwyliau banc) a disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ymrwymo i sifftiau hyd at 10 awr (diwrnodau hyblyg).**

**I fod yn Weithiwr Cefnogi Gwasanaeth llwyddiannus, bydd angen**:

- Gwybod sut i wella ansawdd gwasanaeth er budd defnyddwyr, gan ymdrin ag ymholiadau mewn modd diplomyddol a chyfrinachol.
- Gwybodaeth dda am wasanaethau a ddarperir gan y GIG a Gofal Cymdeithasol.
- Addysg hyd at lefel TGAU (neu gyfwerth trwy brofiad).
- Bod yn llythrennog mewn TG.
- Trwydded yrru lawn y DU sy'n eich galluogi i yrru cerbyd trawsyrru â llaw.

**Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23.59 ddydd Llun 17 Gorffennaf gyda chyfweliadau i ddilyn.***

**Mewn cydnabyddiaeth am eich ymroddiad a'ch arbenigedd, byddwch chi'n cael**:

- **Gwyliau** - Byddwch chi'n cael 36 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc) a'r opsiwn i brynu 5 diwrnod ychwanegol o wyliau.
- **Cynllun pensiwn** - Rydym yn cynnig hyd at 6% o gyfraniad pensiwn.
- **Gweithio hyblyg** - Byddwn ni'n gwneud yr hyn a allwn ni i sicrhau eich bod yn gweithio mewn ffordd sy'n addas i chi.
- **Cyfleoedd Dysgu a Datblygu** - Rydym yn un o elusennau mwyaf y DU ac mae gennym ystod eang o gyfleoedd gyrfa. Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd cynhwysfawr i staff ddatblygu eu hunain.
- **Disgowntiau **- Bydd gennych fynediad at ddisgowntiau gwych drwy'r Cerdyn Disgownt Golau Glas a'n platfform buddion cyflogeion ein hunain.
- **Cefnogaeth Lles** - Lles staff yw'r flaenoriaeth bob amser. Bydd gennych fynediad at gymorth iechyd meddwl a llesiant.
- **Gweithio fel Tîm** - Byddwch chi'n gweithio fel rhan o dîm sy'n cefnogi ein cenhadaeth o helpu pobl mewn argyfwng.
- **Beicio i'r Gwaith **- Mae'r cynllun beicio i'r gwaith yn eich galluogi i logi beic.
- **Benthyciad tocyn tymor **- Rydym yn cynnig benthyciad di-dâl i brynu tocyn tymor ar gyfer teithio rhwng y cartref a'r gwaith.
- Yn Y Groes Goch Brydeinig, rydym yn ymfalchïo yn ein gweithlu amrywiol, ac yn sicrhau bod gennym amgylchedd cynhwysol ar gyfer ein holl staff a gwirfoddolwyr. Rydym yn parhau i ymrwymo i sicrhau bod ein timoedd yn gallu dod â'u hunaniaethau go iawn i'r gwaith heb risg neu ofn o wahaniaethu. Rydym yn gwneud hyn drwy adrodd data'n rheolaidd, a chefnogaeth fewnol gan ein Rhwydwaith Hil a Chydraddoldeb (REEN) mewnol, Rhwydwaith LGBT+, ein Rhwydwaith Anabledd a Llesiant (DAWN), Rhwydwaith Rhywedd, Rhwydwaith Gofalwyr a Rhwydwaith Ieuenctid._

**_Cysylltu caredigrwydd dynol ag argyfwng dynol_

More jobs from British Red Cross