Gweithiwr Cymdeithasol - Barry, United Kingdom - Vale of Glamorgan Council

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Amdanom ni**
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn awyddus i dderbyn ceisiadau ar gyfer ei Dîm Iechyd ac Anabledd Plant yn ei Adran Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc.

Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, rydym wedi creu nifer o swyddi i ychwanegu capasiti a gwydnwch ar draws ein timau. Yn weithiwr Cymdeithasol ym Mro Morgannwg bydd gennych lwyth gwaith hawdd ei reoli, cewch gymorth rhagorol a chewch amser i'w dreulio gyda phlant a phobl ifanc.

Gallwch ddisgwyl cynhesrwydd a lefelau uchel o gymorth gan weithlu ymroddedig ac Awdurdod lle mae lles a datblygiad yn ganolog i'n gwaith.

Dyma gyfle arbennig i ymgartrefu mewn Awdurdod sydd â hanes llwyddiannus o wneud gwahaniaeth a pherfformio'n rhagorol. Mae perthnasau'n ganolog i'n gwaith, ac rydym yn hyrwyddo arfer sy'n seiliedig ar gryfder ym mhopeth a wnawn.

Ewch i'n tudalen Swyddi Gwasanaethau Plant bwrpasol i ddarllen am y Weledigaeth, y Timau a'r Manteision i Weithwyr.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion am gyflog: Gradd 8, PCG £32, 909 - £36, 298 y.f. / Gradd 9, PCG £37, 261 - £41, 496 y.f.

Cyflog wrth benodi'n dibynnu ar gymwysterau a phrofiad fel y penderfynir gan y swyddog penodi. Nid oes cynnydd awtomatig o Radd 8 i Radd 9

Oriau Gwaith: 37 awr / Llawn amser

Prif Waith: Swyddfa'r Dociau, Y Barri

Angen Gwiriad DBS: Manwl

**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:

- Gradd/diploma cydnabyddedig neu gymhwyster cyfatebol mewn Gwaith Cymdeithasol e.e. Gradd, Diploma Gwaith Cymdeithasol, CQSW ac ati.
- Wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
- Profiad o Waith Cymdeithasol gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd / gofalwyr.
- Profiad o weithio amlasiantaethol
- Gwybodaeth am egwyddorion y Ddeddf Plant, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), canllawiau a safonau cenedlaethol.

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person a atodir i gael mwy o wybodaeth.

Mwy o wybodaeth am y timau:
Mae gweithwyr cymdeithasol yn ein Tîm Iechyd ac Anabledd Plant yn darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc sydd ag anabledd dysgu difrifol neu arwyddocaol, anabledd corfforol, nam ar y synhwyrau, neu nam cyfathrebu dwys. Mae ganddynt gysylltiadau aml-asiantaeth cryf, yn enwedig gyda Iechyd. Byddwch yn chwarae rhan wrth ymateb i atgyfeiriadau newydd i'r tîm ac wrth sicrhau ein bod yn darparu ymateb cychwynnol effeithiol a byddwn yn datblygu perthnasoedd tymor hwy gyda theuluoedd i'w helpu i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw.

Bydd y gwaith yn bwrpasol a bydd risgiau'n cael eu rheoli'n hyderus. Mae digon o adnoddau gan y Tîm i alluogi gweithwyr i weithredu mewn ffordd amserol ond hefyd gydag amser i fyfyrio.

Ym mhob un o'r timau, gall gweithwyr fod yn garedig ac yn gyson a gallant ganolbwyntio ar eu gwaith gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd / gofalwyr. Mae rheolwyr ar gael yn rhwydd ac mae lles y staff yn flaenoriaeth.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Cynhelir cyfweliadau ar 22/02/2023

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu gwnewch gais ar-lein:
Alison Woolcock, Rheolwr Tîm,

Job Reference: SS00565

More jobs from Vale of Glamorgan Council