Youth and Volunteer Manager - Llantrisant, United Kingdom - South Wales Fire and Rescue Service

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
The above temporary vacancy has now arisen within the Community Safety & Partnerships (CS&P) Department at South Wales Fire and Rescue Service (SWFRS) Headquarters, Forest View Business Park, Llantrisant, CF72 8LX.

Applicants should hold a relevant youth qualification at degree level**,**have experience of planning, developing, managing, and evaluating a range of youth engagement programmesand be able to demonstrate experience in volunteer management. Further information about youth interventions and the volunteer scheme can be foundon the South Wales Fire and Rescue Service website and can be accessed via the Youth & Education and Working with us Pages.

Welsh language skills are desirable but not essential for this post.

Cymraeg

Mae'r swydd wag dros dro uchod bellach wedi codi yn yr Adran Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau (DCaP) ym Mhencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC), Parc Busnes Forest View, Llantrisant, CF72 8LX.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl raglenni ymgysylltu ieuenctid y mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn eu cyflwyno gyda ac ar gyfer pobl ifanc De Cymru yn cael eu cyflwyno'n effeithlon ac effeithiol ac am ddarparu cyfeiriadlleol a chenedlaethol. Hefyd bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli pob agwedd ar Gynllun Gwirfoddolwyr GTADC. Bydd gan y deiliad gyfrifoldeb rheoli llinell uniongyrchol am dîm o Reolwyr Prosiect ar draws Ymgysylltu Ieuenctid yn ogystal â'r Cydlynydd Gwirfoddolwyr.

Dylai ymgeiswyr feddu ar gymhwyster ieuenctid perthnasol lefel gradd**,** meddu ar brofiad o gynllunio, datblygu, rheoli a gwerthuso amrywiaeth o raglenni ymgysylltu â phobl ifanc a gallu dangos profiad o reoli gwirfoddolwyr. Mae rhagor o wybodaeth am ymyriadau ieuenctid a'r cynllun gwirfoddolwyr ar gael ar wefan Gwasanaeth Tân acAchub De Cymru a gellir ei chyrchu drwy'r Tudalennau Ieuenctid ac Addysg a Gweithio gyda ni.

Bydd yr Ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio 37 awr yr wythnos, ac mae Cynllun Gweithio Hyblyg yn weithredol. Mae'r rôl yn cynnwys teithio rhwng safleoedd ledled De Cymru a rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu teithio'n annibynnol. Bydd y rôl hefyd yn cynnwysgweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau o bryd i'w gilydd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â Phrawf Cyffuriau ac Alcohol a Gwiriad gan Wasanaeth Datgelu'r Alban cyn y gwneir unrhyw benodiad.

Mae'r holl ddogfennaeth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac rydym yn croesawu cyfathrebu yn y ddwy iaith. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol. Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddo yn y cam Llunio Rhestr Fer yn cael cyfle i gadarnhaueu dewis iaith ar gyfer cyfweliadau ac asesiadau (gan gynnwys gwaith papur, cyflwyniadau llafar a chwestiynau cyfweliad). Bydd y trefniadau'n cael eu cadarnhau yn dilyn gwahoddiad i gyfweliad a gellir darparu gwasanaeth Cyfieithu a/neu Gyfieithu ar y Pryd.

More jobs from South Wales Fire and Rescue Service