Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwybodaeth X 2 - Cardiff, United Kingdom - Cardiff and Vale College

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Swydd Wag Fewnol / Allanol**

**Teitl y Swydd**: Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwybodaeth x 2

**Contract**: Llawn amser, Parhaol

**Lleoliad**: Caerdydd a'r Fro

**Cyflog**: £21,030 - £22,469 y flwyddyn

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwybodaeth o fewn yr Adran Gwasanaethau Gwybodaeth yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Bydd y swydd hon wedi'i lleoli ar draws campysau.

Byddwch yn atebol i'r Rheolwr Gwasanaethau Gwybodaeth, a byddwch yn gyfrifol am ddarparu cymorth ar bob agwedd ar yr adran, yn cynnwys y canlynol:

- Cyflawni dyletswyddau swyddfa cyffredinol, yn cynnwys cofrestru myfyrwyr ac ymholiadau cyffredinol gan staff a myfyrwyr pan fydd hyn yn ofynnol, yn enwedig yn ystod cofrestru, cyfnodau o lwyth gwaith sylweddol neu absenoldeb staff.
- Cynorthwyo gyda chofrestru wyneb yn wyneb yn ôl y gofyn, yn ystod y flwyddyn.
- Diweddaru'r system myfyrwyr fewnol i sicrhau nad yw'r dysgwyr sydd wedi tynnu'n ôl/symud wedi cofrestru ar eu cwrs, a bod dysgwyr gorffenedig yn cael eu prosesu'n gywir.
- Newid amserlenni'r coleg ac e-gofrestrau ar y system amserlennu fewnol.
- Sicrhau bod e-gofrestrau'n cael eu marcio'n brydlon ac y llunnir adroddiadau ar unrhyw e-gofrestrau nad ydynt wedi'u marcio ar gyfer Rheolwr Busnes Cwricwlwm. Cynnal archwiliadau dirybudd i sicrhau bod y cofrestrau'n cyd-fynd â nifer y dysgwyr yn y dosbarth o leiaf unwaith bob tymor.
- Diweddaru e-gofrestrau gydag unrhyw wersi sy'n cael eu canslo, neu wersi sy'n cael eu darparu gan staff addysgu eraill.
- Byddai sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gefndir addysgol cadarn neu brofiad cymesur amlwg. Mae'n rhaid i'r ymgeisydd delfrydol feddu ar hanes amlwg o ddarparu yn y sector addysg bellach a'r gallu i gyfathrebu materion cymhleth i amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd.

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a'r broses asesu yn y Gymraeg.

**Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw 09/01/2023 am 12:00**

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

Bydd eich cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a'r Fro hefyd yn ddibynnol ar wiriadau geirdaon addas. Cyn i chi allu dechrau eich cyflogaeth, rhaid i Goleg Caerdydd a'r Fro gael dau eirda, un gan eich cyflogwr presennol neu gyflogwr mwyaf diweddar. Byddwn yn cysylltu â'ch canolwyr ar eich penodiad.

Mae cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru (CGA Cymru) yn ofyniad gorfodol ar gyfer y swydd

**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.**

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.

More jobs from Cardiff and Vale College