Technegydd Cyfleusterau - Cardiff, United Kingdom - Cardiff and Vale College

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Swydd Fewnol / Allanol**

**Teitl y Swydd**:Technegydd Cyfleusterau (Gofalwr)

**Contract**:Amser llawn, parhaol

**Cyflog**:£21,030 - £22,469 y flwyddyn + £2,000 lwfans shifft

**Lleoliad**: Ar draws campysau

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn chwilio am Dechnegydd Cyfleusterau (Gofalwr) wedi'i leoli yn yr Adran Ystadau ac yn gweithio Ar draws campysau.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gyflawni gwaith rheoli cyfleusterau mewnol yr adran ynghyd â dyletswyddau cloi a datgloi. Bydd e/hi'n cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau cynnal a chadw ac atgyweirio ynghyd â dyletswyddau cyffredinol eraill a dyletswyddau gofalwr yn ôl y gofyn.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn deall egwyddorion cyffredinol iechyd a diogelwch a gweithdrefnau gwacáu. Bydd e/hi'n brydlon ac yn ddibynadwy bob amser ac yn gallu ymgymryd â gweithgaredd corfforol egnïol. Bydd sgiliau cyfathrebu gwych ganddo/ganddi ynghyd â'r gallu i gyfathrebu'n briodol gydag aelodau o'r cyhoedd, myfyrwyr, staff ac ymwelwyr.

Yn ogystal â hynny, byddai sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Defnyddiwch ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig i wneud cais. Ni dderbynnir ceisiadau CV. Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais yn Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni a hoffech i ni gynnal y broses gyfweld ac asesu yn Gymraeg.

**Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw 09/01/23 am 12:00**

Mae'r holl swyddi gwag yn berthnasol am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad dilys a chyfoes gan y DBS. Mae hwn yn gontract cytundebol ac mae'n rhaid ei sefydlu cyn i'ch cyflogaeth ddechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ynghylch Addasrwydd Cyn-droseddwyr am Gyflogaeth ar gael ar gais.

Yn ogystal, bydd eich cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a'r Fro yn ddibynnol ar wiriadau geirda addas, cyn y gallwch ddechrau ar y gyflogaeth. Rhaid i Goleg Caerdydd a'r Fro gael dau eirda, gydag un ohonynt gan eich cyflogwr diweddaraf.

**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol ac mae'n rhaid iddynt fod wedi'u sefydlu cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.**

Rydym yn ymroddedig i recriwtio a dargadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol y cynllun hyderus o ran anabledd.

More jobs from Cardiff and Vale College