Nyrs Feithrinfa - Neath, United Kingdom - NPTC Group of Colleges

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
Ydych chi'n meddwl bod gennych chi'r hyn sydd ei angen i fod yn rhan o'n tîm Meithrinfa arobryn ym Meithrinfa Ddydd Lilliput? Ydych? Gwych - daliwch ati i ddarllen felly am fwy o wybodaeth.

**Ynglyn â ni**:Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.

Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau'r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda'n staff addysgu hynod gymwys a'u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.

**Pam y dylech chi weithio i ni? **Rydym yn cynnig cyflogau cystadleuol ac yn talu'r Cyflog Byw Cenedlaethol. Rydym hefyd yn cynnig cynllun pensiwn buddiant diffiniedig, gyda buddion fel marwolaeth yn ystod gwasanaeth i enwi ond un, ac am bob £100 rydych yn ei ennill rydym ar hyn o bryd yn cyfrannu £21.20. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma Nodweddion allweddol : LGPS ). Mae hawl gwyliau hael o 28 diwrnod y flwyddyn (yn codi i 32 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth), ynghyd â hyd at 5 diwrnod cau y flwyddyn. Mae gennym barcio am ddim ac mae trefniadau gweithio hyblyg ac ystwyth ar gael i staff sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd ynghyd â'r cyfle i wneud cais am gyfnod sabothol a rhannu swydd. I rieni prysur mae help wrth law hefyd gyda darpariaeth gofal plant ym Meithrinfa Ddydd Lilliput Coleg Castell-nedd sy'n cynnig gostyngiad o 10% i staff. Mae gwasanaethau cymorth staff yn cynnwys mynediad at ddarpariaeth iechyd galwedigaethol yn ogystal â mynediad at y Llinell Gymorth i Gyflogeion, sy'n Wasanaeth Rheoli Bywyd a Chymorth Personol cyfrinachol 24 awr. Mae gan staff fynediad hefyd at Gydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig. Mae'r Coleg yn hyrwyddo diwylliant o ddatblygiad proffesiynol parhaus ac yn cynnig ystod eang o gyfleoedd datblygu i'r holl staff. Yn ogystal â chyflwyno sesiynau allweddol i uwchsgilio a chodi ymwybyddiaeth mae'r Coleg yn cynnig cyfleoedd i staff cymorth ac academaidd ddatblygu eu sgiliau proffesiynol. Mae'r dyfodol yn sicr yn ddisglair yng Ngrwp Colegau NPTC.

More jobs from NPTC Group of Colleges