Current jobs related to Research Associate - London - Cardiff University / Prifysgol Caerdydd

  • Only for registered members London, England

    事業会社やコンサルティング、投資ファンドなどのクライアントが直面する意思決定問題に対して、最適な業界のエキスパートを迅速に見つけてつなぎ、1対1のオンラインコンサルテーションを確実に実行し、情報に基づく判断を支援します。 · ...

  • Only for registered members London

    事業会社・コンサルティング・投資ファンド等のクライアントが直面する意思決定課題に対し、最適な業界エキスパートを迅速に見つけてつなぎ、1対1のオンラインコンサルテーションを確実に実行すること。知識への障壁を取り除き、一次情報に基づく判断を支援する。 · クライアント要件の理解とスコープ定義、エキスパートの探索・評価(ソーシング/ベッティング)、コンプライアンス審査・レート交渉・スケジューリングなどを行う。 · ...

  • Only for registered members United Kingdom

    Tŷ cyflawn amser (35 awr yr wythnos) sydd ar gael. · Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych gan gynnwys ciniodau banc diwrnodog, pencampwaith pensiwn lleol a mentrau teithio. · ...

  • Only for registered members London £41,064 - £46,049 (GBP)

    Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn chwareg yr unig dyfodaiwert £9 miliwn ariannid gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Llywodraeth Cymru. · ...

  • Only for registered members United Kingdom

    Cydymaith Ymchwil (Biowybodegydd) brwdfrydig a phrofiadol i ymuno â grŵp ymchwil yr Athro Valentina Escott-Price. · ...

  • Only for registered members United Kingdom

    Cydymaith Ymchwil i weithio yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol.Cydymaith Ymchwil sy'n dymuno gyflawni · cynnig allbynnau mesuradwy · ...

  • Only for registered members London $110 059 - $127 947 (AUD)

    The UNSW-UTS Trustworthy Digital Society brings together experienced voices from both University and Industry with the aim to facilitate the creation of a digitally enabled society that is equitable, inclusive, · and sustainable.We work towards a world where everyone can particip ...

  • Only for registered members London

    The Rosenblatt lab studies how epithelia maintain a functional barrier and proper cell numbers.Due to the significant role extrusion plays in epithelial cell death, a variety of diseases can result when it is misregulated. · A research associate will be selected to investigate ho ...

  • Only for registered members London Full time

    The Research Associate is an integral part of the executive search team at ZRG, responsible for providing support to Managing Directors, Principals, and Associates in all aspects of executing search engagements. · Collaborate with engagement team to ensure execution of tailored r ...

  • Only for registered members London

    The Research Associate role provides a foundation in consulting and governance and an accelerated Consulting Career Path. · This opportunity allows you to work with clients internationally at the most senior level, fast-track your personal and professional development. · ...

  • Only for registered members London

    The Department of Informatics is looking to appoint a Research Associate to work in the area of Cryptography. · The candidate will work alongside Prof. Martin Albrecht and other cryptographic researchers in the department on topics in lattice-based cryptography and related fields ...

  • Only for registered members London

    The Research Associate is an integral part of the executive search team at ZRG, responsible for providing support to Managing Directors, Principals, and Associates in all aspects of executing search engagements. · Collaborate with engagement team to ensure execution of tailored r ...

  • Only for registered members London

    We are looking for a Research Associate to join our newly funded Centre of Excellence in Paediatric Palliative Care at King's College London. · The research associate will work closely with Professor Lorna Fraser on an economic evaluation and systemic review with Dr Victoria Fish ...

  • Only for registered members London, England

    +The research associate will be selected to investigate how metabolism and mitochondrial membrane potential impacts epithelial cell extrusion of normal and transformed cells.+PhD qualified in relevant subject area · Must have at least 5 years training in cell biology techniques · ...

  • Only for registered members London

    This talented individual will participate in cutting-edge cardiovascular research projects using experimental techniques including in vivo physiology,molecular biology,biochemistry,and histology. ...

  • Only for registered members London, England

    The Research Associate is an integral part of the executive search team at ZRG, responsible for providing support to Managing Directors, Principals, and Associates in all aspects of executing search engagements. · Collaborate with engagement team to ensure execution of tailored r ...

  • Only for registered members London

    Join Newmark's London office as a Research Associate and contribute to the company's award-winning research. You will take supported ownership of Newmark's research outputs for the UK logistics and multi-let industrial sectors, maintaining and developing existing industrial resea ...

  • Only for registered members London, England

    An opportunity to join a multidisciplinary Guy's & St Thomas' Hospital Charity funded study investigating mechanisms risk factors and response to treatment of Long COVID symptoms in the context of a randomised controlled trial of a novel psychophysiological intervention called Ba ...

  • Only for registered members London

    As a Research associate you will own the research and outreach activity that fuels successful mandates. · ...

  • Only for registered members London

    The Centre for the Study of Governance and Society (CSGS) in the Department of Political Economy (DPE) is seeking a one-year post-doctoral fellow to work on the project 'Market Economies and Green Ideals'.We aim to recruit a post-doctoral researcher working in one of the followin ...

  • Only for registered members London

    The Rosenblatt lab studies how epithelia maintain a functional barrier and proper cell numbers.The research associate will investigate how metabolism and mitochondrial membrane potential impacts epithelial cell extrusion of normal and transformed cells. · PhD qualified in relevan ...

  • Research Associate - London - Cardiff University / Prifysgol Caerdydd

    £41,064 - £46,049 (GBP)
    Description
    Cydymaith Ymchwil ar gyfer y Fforwm Cynhyrchiant Cymru

    Ysgol Busnes Caerdydd

    Mae'r Sefydliad Cynhyrchiant yn dwyn ynghyd arbenigwyr o ystod o ddisgyblaethau a chefndiroedd, gan weithio'n uniongyrchol gyda llunwyr polisïau a busnesau i ddeall yn well, mesur, a gwneud gwelliannau i gynhyrchiant ledled y DU, gyda'r bwriad i wella safonau byw a lles.

    Mae Fforwm Cynhyrchiant Cymru yn bwriadu recriwtio cydymaith ymchwil am gyfnod penodol i gefnogi gwaith y fforwm drwy gynnal a lledaenu gwaith ymchwil ar Her Cynhyrchiant Cymru. Bydd y rôl yn cefnogi cynhyrchu a lledaenu tystiolaeth ar gynhyrchiant a bydd yn cynnwys adolygiadau llenyddiaeth, dadansoddi data, ysgrifennu adroddiadau a lledaenu gwybodaeth, gan gynnwys cefnogi cyfarfodydd y fforwm, fel y bo'n briodol. Nod y fforwm yw hysbysu llunwyr polisïau a busnesau ynghylch y wybodaeth berthnasol o waith y Sefydliad. Felly, mae parodrwydd i ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol a'r tîm ymchwil canolog yn y Sefydliad Cynhyrchiant yn un o ofynion allweddol y rôl.

    Mae rhagor o wybodaeth ynghylch y fforwm ar gael yn: neu gysylltu Professor Melanie Jones

    Swydd amser llawn yw hon (35 awr yr wythnos), am gyfnod penodol tan 31 Awst 2026.

    Cyflog: £41,064 - £46,049 y flwyddyn (Gradd 6)

    Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 23 Hydref 2025

    Dyddiad cau: Dydd Iau, 20 Tachwedd 2025

    Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned beth bynnag fo'u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

    Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

    Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi'i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd

    Prif swyddogaeth

    Cynnal gwaith ymchwil ar her cynhyrchiant Cymru i hysbysu a chefnogi gwaith y Fforwm Cynhyrchiant Cymru. Cyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol y Sefydliad Cynhyrchiant gan gynnal a chyhoeddi gwaith ymchwil o safon sy'n cael effaith.

    Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

    Ymchwil

    Cynnal gwaith ymchwil ar Her Cynhyrchiant Cymru a chyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol y Sefydliad Cynhyrchiant a'r Brifysgol drwy gynhyrchu canlyniadau y gellir eu mesur gan gynnwys gwneud ceisiadau am arian, cyhoeddi mewn cynadleddau a chyfnodolion academaidd cenedlaethol, a recriwtio a goruchwylio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.
    Datblygu amcanion a chynigion ymchwil at ddibenion ymchwil annibynnol neu ar y cyd, gan gynnwys cynigion am gyllid ymchwil
    Mynd i gynadleddau/seminarau lleol a chenedlaethol a/neu roi cyflwyniadau ynddynt yn ôl yr angen
    Ymgymryd â thasgau gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r Fforwm Cynhyrchiant Cymru, gan gynnwys cynllunio a threfnu cyfarfodydd y fforwm a rhoi'r gweithdrefnau angenrheidiol ar waith er mwyn sicrhau adroddiadau cywir a phrydlon.
    Paratoi ceisiadau moeseg ymchwil a llywodraethu ymchwil fel sy'n briodol
    Adolygu a chywain y llenyddiaeth ymchwil sydd eisoes yn bodoli yn y maes
    Cymryd rhan yng ngweithgareddau ymchwil y Sefydliad a'r Ysgol.
    Datblygu a chreu rhwydweithiau yn y Brifysgol a'r tu allan iddi, dylanwadu ar benderfyniadau, trin a thrafod gofynion ymchwil o ran y dyfodol a rhannu syniadau ymchwil er budd prosiectau ymchwil

    Arall

    Cydweithio'n effeithiol â chyrff diwydiannol, masnachol a chyhoeddus, sefydliadau proffesiynol, sefydliadau academaidd eraill ac ati, a hynny'n rhanbarthol ac yn genedlaethol i godi proffil Fforwm Cymru, meithrin cynghreiriau strategol gwerthfawr a chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar ystod o weithgareddau. Bydd disgwyl i'r gweithgareddau hyn gyfrannu at y gwaith o wella proffil rhanbarthol a chenedlaethol y Sefydliad Cynhyrchiant.
    Ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol mewn ffordd briodol a fydd yn gwella perfformiad.
    Cymryd rhan yng ngweinyddiaeth y Sefydliad Cynhyrchiant ac mewn gweithgareddau i hyrwyddo'r Sefydliad a'i waith ar draws y Brifysgol a thu hwnt.
    Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi'u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd.

    GWYBODAETH AM Y CAIS

    Nodyn pwysig: Polisi'r Brifysgol yw defnyddio manyleb y person fel arf allweddol ar gyfer rhestru byr. Dylai ymgeiswyr ddangos eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol yn ogystal â'r rhai dymunol, lle bo hynny'n berthnasol. Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir i chi ddarparu'r dystiolaeth hon drwy ddatganiad ategol. Sicrhewch fod y dystiolaeth yr ydych yn ei darparu yn cyfateb i'r meini prawf wedi'u rhifo a amlinellir uchod (eg 19628BR) . Bydd eich cais yn cael ei ystyried yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir gennych o dan bob elfen

    Ysgol Busnes Caerdydd

    Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn ysgol fusnes a rheoli flaenllaw yn y DU, yn cynnal achrediadau AACSB ac AMBA ac yn y 1af safle 1af am ei Hamgylchedd Ymchwil a'i 2il ar Bŵer Ymchwil (REF2021). Mae gan yr Ysgol bwrpas Gwerth Cyhoeddus ac mae'n canolbwyntio ar gyd-greu addysg a gwybodaeth o ansawdd uchel, rhyngddisgyblaethol sy'n darparu gwerth economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae gweithgareddau'r Ysgol yn gogwyddo tuag at bum Her Fawr: Gwaith gweddus, economïau teg a chynaliadwy, sefydliadau yn y dyfodol, llywodraethu da, ac arloesedd cyfrifol.

    Meini Prawf Hanfodol

    Cymwysterau ac Addysg

    Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD (neu bron â'i chwblhau/cyflwyno) mewn Economeg neu faes pwnc cysylltiedig neu brofiad diwydiannol perthnasol.

    Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad

    Arbenigedd a phortffolio diamheuol o ymchwil a/neu brofiad perthnasol ym myd diwydiant yn y meysydd ymchwil canlynol:i. Economeg ranbarthol a/neu economi Cymru

    ii. Ysgogwyr cynhyrchiant 3. Gwybodaeth am statws cyfredol yr ymchwil mewn maes arbenigol

    Y gallu diamheuol i gyhoeddi mewn cyfnodolion cenedlaethol / rhyngwladol a chynadleddau cenedlaethol / rhyngwladol a / neu allbynnau ymchwil eraill
    Gwybodaeth a deall cyllid ymchwil cystadleuol er mwyn gallu paratoi ceisiadau i'w cyflwyno i gyrff cyllido

    Cyfathrebu a Gweithio mewn Tîm

    Gallu diamheuol i gyfathrebu'n effeithiol ac yn argyhoeddiadol
    Y gallu i oruchwylio gwaith pobl eraill i lywio ymdrechion y tîm ac ysgogi unigolion

    Arall

    Gallu diamheuol i fod yn greadigol, yn arloesol a gweithio yn rhan o dîm yn y gwaith
    Gallu diamheuol i weithio heb oruchwyliaeth agos

    Meini Prawf Dymunol

    Tystiolaeth o gydweithio â byd diwydiant a/neu lunwyr polisi.
    Gallu diamheuol i addasu i ofynion newidiol byd Addysg Uwch.
    Tystiolaeth o allu cymryd rhan mewn rhwydweithiau mewnol ac allanol, eu datblygu a'u defnyddio i wella gweithgareddau ymchwil yr Ysgol a'r Sefydliad.

Jobs
>
London