Cyhoeddwr (Rhan Amser) / Announcer (Part Time) - Cardiff, United Kingdom - S4C

S4C
S4C
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

3 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Part time
Description
Mae S4C yn chwilio am Gyhoeddwr rhan amser i ymuno a'r adran Gyhoeddi. Byddwch yn gyfrifol am gyflwyno a chyfansoddi 'lincs' rhwng rhaglenni S4C ac yn ystod toriadau hysbysebion gan gynnwys unrhyw waith llenwi sy'n angenrheidiol er mwyn cywiro'r amserlen darlledu neu er mwyn cyfleu gwybodaeth i'r cyhoedd, a pha bynnag waith cyflwyno arall y bo ei angen ar S4C yn ystod eich oriau gwaith.

Bydd y gwaith yma yn cynnwys yr holl waith gweinyddol sy'n deillio o'ch dyletswyddau fel Cyhoeddwr, gwaith hyrwyddo a chyhoeddusrwydd ar ran S4C gan gynnwys ond heb gyfyngiad ymddangosiadau cyhoeddus, dybio a throsleisio ar gyfer unrhyw waith hyrwyddo neu gynnyrch eraill a gynhyrchir neu a gomisiynir gan S4C.

Mae'r gallu i gyfathrebu ar lafar yn gywir ac yn raenus yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma. Yn ogystal, mae'r gallu i ysgrifennu yn gywir yn y Gymraeg a'r Saesneg i safon uchel yn hanfodol.

**Fel rhan o'r cais, bydd angen recordiad o'ch llais yn cyhoeddi'r sgriptiau y byddwn yn ei ddarparu ar eich cyfer. Pob recordiad i fod dim llai na 10 eiliad o hyd a dim mwy na 25 eiliad.**

**Manylion eraill**

**Lleoliad**:Lleoliad arferol eich gwaith fydd Sgwâr Canolog, Caerdydd, CF10 1FT ond disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.

**Cyflog**:£33,075.56 y flwyddyn. Byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r cyflog ar gyfer hyd y cytundeb.

**Oriau gwaith**: 23.33 yr wythnos. Patrwm shift dydd Sadwrn a dydd Sul bob tair wythnos. Mi fyddwch yn derbyn brêc di-dâl o 20 munud y dydd.

**Cytundeb**: 26 wythnos

**Cyfnod prawf**:12 wythnos

**Gwyliau**: 7 diwrnod, sef swm pro rata am y cyfnod.

**Pensiwn**: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

**Ceisiadau**

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

**Job Types**: Part-time, Temporary contract
Contract length: 6 months
Part-time hours: 23.33 per week

**Salary**: £33,000.00 per year

**Benefits**:

- Company pension
- Cycle to work scheme
- Flexitime
- Free parking
- On-site parking
- Sick pay
- Work from home

Schedule:

- Weekends only

Work Location: Hybrid remote in Cardiff

Application deadline: 08/03/2023

More jobs from S4C