Arweinydd Canolfan Trawsnewid a Llwyddiant Digidol - Cardiff, United Kingdom - Cardiff and Vale College

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Swydd Wag Fewnol / Allanol**

**Teitl y Swydd**: Arweinydd Canolfan Trawsnewid a Llwyddiant Digidol x2**

**Contract: Llawn Amser, Parhaol**

**Oriau: 37**

**Cyflog: £37,806 - £39,921 y flwyddyn**

Rydym ar ben ein digon o gyhoeddi dwy swydd arweinydd arbennig yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Bydd ein Harweinwyr Canolfan Llwyddiant Digidol a Chyfoethogi Dysgu Drwy Dechnoleg yn gweithio gyda'n tîm Dysg wedi'i Gefnogi gan Dechnoleg a fydd yn cyfoethogi a gwella dysg yn seiliedig ar broblemau a phrofiad y myfyrwyr yn ehangach. Bydd ein holl fyfyrwyr yn elwa o amgylchedd dysgu ac addysgu sy'n cael ei gefnogi gan dechnoleg o safon sy'n croesawu arloesedd, cydweithrediad a chynhwysiant.

Byddwch yn cymryd rhan mewn nifer o brosiectau Dysgu Ymdrochol o fewn y tîm TEL a bydd digon o gyfleoedd ichi gael effaith drwy ddefnyddio dulliau arloesol, gan weithio gyda grwp ysbrydoledig a brwdfrydig o bobl a gweithio ar brosiectau hynod gyffrous.

Mae buddion gwych i'r rôl, gan gynnwys pensiwn hael, cynllun arian parod iechyd, cynllun Beicio i'r Gwaith, ap Headspace am ddim, mynediad i gampfeydd a chymorth llesiant, ynghyd â llwybrau gyrfa trawiadol o fewn y coleg.

Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys:

- Er mwyn cefnogi'r coleg i fodloni Safonau Digidol 2030, wrth weithio i drawsnewid addysg a dysg a thaith y dysgwr, a helpu i feithrin pobl fedrus a chyflogadwy.
- Rheoli'r Canolfannau Llwyddiant, gan gynnwys Trawsffurfiad Digidol mewn modd effeithlon ac effeithiol, gan gynnig gwasanaeth croesawgar sy'n bodloni anghenion y Coleg a'i randdeiliaid ledled safleoedd Caerdydd a'r Fro.
- Cydlynu ac ysgogi'r timau perthnasol o fewn yr adran, a rheoli adnoddau'n effeithiol ac effeithlon.
- Monitro a gweithredu mentrau cyllid Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei chasglu a'i hadrodd i'r Pennaeth Adran.
- Rheoli'r rhaglen E-diwtorial, gan sicrhau y caiff ei olrhain a'i gweithredu o fewn rhaglen flynyddol a chyfnod cynefino'r coleg.
- Cynllunio cyfleoedd cyfoethogi o fewn y ddarpariaeth ar gyfer yr holl ddysgwyr o fewn CAVC, a chodi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd hynny.
- Nid yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ond byddent yn ddymunol ar gyfer y rôl hon.

Rydym yn awyddus i benodi unigolion dynamig sy'n frwd dros ddefnyddio technoleg a'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig i'n dysgwyr yn CAVC. Cydweithio ar weledigaeth ein hadran wrth reoli timau ledled yr holl gampysau. Ydy hyn yn swnio fel chi? Edrychwn ymlaen at weld eich cais

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a'r broses asesu yn y Gymraeg.

**Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau ceisiadau yw 12pm ar 10/03/2023.**

Rydym yn hapus i ystyried opsiynau gweithio hyblyg fel rhan o unrhyw geisiadau.

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.**

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun hyderus o ran anabledd.

More jobs from Cardiff and Vale College