Cynorthwyydd Gweinyddol - Swansea, United Kingdom - Gower College Swansea

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Cynorthwyydd Gweinyddol Gwasanaethau Dysgwyr ac Ansawdd (DSW)**

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn chwilio am weinyddydd brwdfrydig i gefnogi'r Tîm Gwasanaethau Dysgwyr ac Ansawdd i sicrhau bod pob prentis DSW yn ymgymryd ag asesiad WEST (Sgiliau Hanfodol Cymru) cyn dechrau gyda'r coleg. Bydd deiliad y swydd hefyd yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr ac effeithlon sy'n diwallu anghenion cadw cofnodion a gweinyddol yr Adran Ddysgu Seiliedig ar Waith.

Mae profiad o ddechrau a chynnal a chadw systemau gweinyddu manwl yn hanfodol, ynghyd â gwybodaeth am Microsoft Office 365.

Bydd gennych gymhwyster Lefel 3 neu'r cyfwerth mewn Gweinyddu Busnes, sgiliau trefnu gwych, gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith yn effeithiol, llygad dda am fanylder a'r gallu i gynhyrchu gwaith cywir. Bydd hefyd gennych lefel 2 (Gradd A-C TGAU) neu'r cyfwerth mewn Mathemateg a Saesneg.

Byddwch yn meddu ar sgiliau trefnu gwych ac yn medru gweithio'n effeithiol dan bwysau i fodloni terfynau amser. Byddwch hefyd yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel a byddwch yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm mewn amgylchedd swyddfa prysur.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe'n cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod hefyd yr angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Rydym felly yn annog unigolion sy'n meddu ar Sgiliau Cymraeg da i wneud cais.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i'r holl staff rhannu'r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

More jobs from Gower College Swansea