Cynghorydd Anabl Helpu Teulu - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

2 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae'r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ledled y ddinas.

Mae'r gwasanaeth yn defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar y teulu, yn seiliedig ar gryfderau, ac yn gynhwysol i adnabod y gefnogaeth fwyaf priodol a fydd yn diwallu anghenion unigolion a'u teuluoedd. Mae'r timau o fewn y gwasanaeth yn cydweithio gydag ystod o weithwyr proffesiynol a phartneriaid i sicrhau bod cefnogaeth ar y lefel iawn ac ar yr adeg iawn.

**Am Y Swydd**
Bydd y deiliaid y swydd yn gyfrifol am adnabod ac asesu anghenion lles y teulu cyfan, ond gyda ffocws penodol ar y plentyn/plant neu'r person ifanc sydd ag anabledd wedi'i nodi neu angen ychwanegol. Bydd yn cyflwyno ymyriadau tymor byr yn uniongyrchol, yn darparu cyngor sy'n gysylltiedig ag anabledd ac yn sicrhau bod y teulu'n gwbl ymwybodol o'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael iddynt. Y nod yw grymuso teuluoedd i adnabod a defnyddio eu cryfderau, er mwyn sicrhau bod yr holl gymorth angenrheidiol ar waith i atal plant a phobl ifanc rhag gorfod cael cymorth dwys neu gael eu huwchgyfeirio at wasanaethau statudol.

Byddwn yn cynnig y canlynol i chi:

- Amgylchedd gwaith cyfeillgar a chefnogol.
- Cefnogaeth a goruchwyliaeth reolaidd i'ch cefnogi yn eich gwaith.
- Rhaglen hyfforddiant eang a helaeth gyda chyfleoedd i hyfforddi mewn meysydd penodol.
- Systemau a thechnoleg sy'n galluogi ac yn hyrwyddo gweithio hybrid.
- Cyfle i ddarparu gwasanaeth wyneb yn wyneb i blant bach, plant, pobl ifanc a'u rhieni/gofalwyr sy'n gwneud gwahaniaeth iddyn nhw a'u lles.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am bobl â'r nodweddion canlynol:

- Brwdfrydedd, cymhelliant a phositifrwydd.
- Gwydnwch a gallu ymateb yn gadarnhaol dan bwysau.
- Brwd dros wneud gwahaniaeth i fywydau teuluoedd ledled y ddinas
- Dealltwriaeth gynhwysfawr o anghenion cymhleth plant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
- Dealltwriaeth gynhwysfawr o anghenion cymhleth plant, pobl ifanc a'u teuluoedd, yn enwedig sut y bydd anghenion ychwanegol ac anableddau yn effeithio ar allu plentyn neu berson ifanc i gyrraedd cerrig milltir allweddol a rheoli ymddygiad ac emosiynau.
- Gwybodaeth ymarferol gynhwysfawr o becyn Microsoft Office ac o systemau rheoli achosion.

Bydd yr unigolyn iawn hefyd yn gallu adnabod a yw unigolyn mewn perygl ac yn gallu ymgynghori a chysylltu â Gweithwyr Cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol neu asiantaethau partner eraill yn ôl y gofyn.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
I gael rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Mellissa Griffiths, Arweinydd Tîm Anabledd Cymorth i Deuluoedd ar

Mae'r swydd hon yn destun Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Swydd dros dro yw hon tan 31/03/2024.

Dylai ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael caniatâd cyn ymgeisio trwy lenwi ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y canlynol sy'n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog neu Uwch Swyddog Enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgolion, y Pennaeth/Corff Llywodraethu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03248

More jobs from Cardiff Council