Bartender - Cardiff, United Kingdom - Wales Millennium Centre

Wales Millennium Centre
Wales Millennium Centre
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

2 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i'r dychymyg.**

**Teitl y Rôl**:Gweinydd Bwyd a Diod

**Amdanom ni/Ein Hadran**:

- Canolfan Mileniwm Cymru yw prif ganolfan celfyddydau'r genedl ac fe'i hadeiladwyd i Danio'r Dychymyg drwy arddangos y cynyrchiadau gorau oll, meithrin doniau creadigol Cymru a darparu profiadau bythgofiadwy.
- Ein hadran Bwyd a Diod yw'r pwynt cyswllt cyntaf i'n cwsmeriaid, sydd yn ein gwneud yn rhan allweddol o ddarparu profiad bythgofiadwy.
- Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i'r adran, gan y byddwn yn agor tri lleoliad newydd yn fuan. Bydd bar Cabaret, yn cynnal digwyddiadau hwyliog, unigryw a bythgofiadwy. Bydd Ffwrnes, caffi a bar, wedi ei leoli ar draws fynedfa gyfan y Ganolfan.Bydd Ffwrnes yn ganolbwynt yr adeilad, ac yn darparu gofod i'r gymuned gyfan o fore tan nos.
- Rydym hefyd yn ailaddurno lolfa ein haelodau, i ddarparu gofod croesawgar a chynnes gyda'r cynnyrch gorau sydd gan Gymru i'w gynnig.

**Ynglŷn â'r Rôl a'r Cyfrifoldebau**:

- Mae rôl gweinydd bwyd a diod wrth wraidd y tîm C&B; byddwch yn rhan hanfodol o adeiladu a chynnal gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, trwy fod yn wyneb cyfeillgar rheolaidd i bawb sy'n ymweld.
- Chi fydd wyneb Canolfan y Mileniwm, ac felly bydd disgwyl i chi feithrin gwybodaeth ragorol am ein hystod cynnyrch, yr hyn sy'n digwydd yn y canol ac ymgorffori ein gwerthoedd trwy eich safonau uchel o wasanaeth.
- Fel aelod craidd o'r tîm, byddwch yn cefnogi'r goruchwylwyr trwy weithredu fel model rôl ar gyfer staff achlysurol eraill, gan roi arweiniad ar weithdrefnau gweithredu safonol.
- Ar adegau bydd disgwyl i chi allu gweithio'n effeithlon ac yn hyderus ar eich pen eich hun.
- Bydd gennych brofiad o ymdrin â materion cwsmeriaid a byddwch yn gymwys i ddatrys materion yn gyflym er boddhad cwsmeriaid.
- Bydd gennych brofiad da mewn gwahanol fathau o wasanaethau lletygarwch, er enghraifft, gweithio y tu ôl i far, gweini wrth y bwrdd, gweithio mewn caffi, neu weithio mewn digwyddiadau.
- Bydd gennych wybodaeth dda am arferion gorau yn y diwydiant lletygarwch a rheoliadau diogelwch bwyd.
- Byddwch yn gymwys wrth ddefnyddio systemau Pwynt Gwerthu Electronig (EPOS).
- Byddwch yn gallu cynorthwyo goruchwylwyr neu reolwyr Bwyd a Diod gyda thasgau gweithredol pan fo angen.
- Byddwch yn adrodd am unrhyw faterion sy'n codi i'r goruchwyliwr mewn modd amserol.
- Byddwch yn adrodd am unrhyw adborth cadarnhaol a llwyddiannau i'r goruchwylwyr i'w rhannu gyda'r tîm ehangach.
- Byddwch yn cynrychioli'r tîm Bwyd a Diod yn fewnol ac felly bydd gofyn i chi weithio'n effeithiol, yn effeithlon ac yn bositif gydag adrannau eraill yn y Ganolfan.
- Byddwch yn cynorthwyo i gyflwyno nifer o ddigwyddiadau a phrosiectau unigryw ledled y Ganolfan, trwy helpu i osod bariau, trefnu lleoliadau, cyfrannu at greu bwydlenni a darparu profiad rhagorol i gwsmeriaid. Mae rhai o'n digwyddiadau yn y dyfodol yn cynnwys ffilmio gan S4C, digwyddiad Newid Cenhedlaeth Llywodraeth Cymru a Chwarae Opera Yn Fyw.

**Anghenion Allweddol**:

- Gallu profedig i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol bob amser.
- Profiad o weithio'n effeithlon ac effeithiol mewn amgylchedd gwasanaeth prysur.
- Yn gymwys a phrofiadol wrth drin arian parod.
- Profiad da o ddefnyddio systemau Pwynt Gwerthu Electronig (EPOS).
- Gwybodaeth sylfaenol am safonau diogelwch bwyd.

**Ydych chi'n rhannu ein gwerthoedd?**
- Mae ein gwerthoedd yn rhan o bwy ydyn ni, beth rydyn ni'n sefyll drosto a sut rydyn ni'n gweithredu. Ydych chi'n rhannu'r gwerthoedd hyn?_

**Myfyriol** - Rydyn ni'n cydnabod y ffaith bod pethau gwych yn cael eu cyflawni bob dydd, rydyn ni'n dathlu hynny ac yn credu bod dysgu o'n profiadau yn gryfder.

**Atebol** - Mewn diwylliant sy'n ein galluogi ni i gyflawni ein potensial, mae'n rhaid i ni fod yn gyfrifol am ein gweithredoedd ni ein hunain ac am weithredoedd y Ganolfan.

**Cydweithredol**:

- Un tîm sy'n gweithio gyda'n gilydd ydyn ni, yn parchu sgiliau a phrofiadau ein gilydd er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau.

**Uchelgeisiol**:

- Rydyn ni'n cefnogi angerdd ac yn annog penderfyniadau dewr er mwyn gyrru ein dymuniad i wella drwy'r amser.

**Arloesol** - Rydyn ni'n chwilio am atebion dychmygus ymhob un o'n meysydd gwaith er mwyn ein galluogi i gyflawni ein hamcanion.

**Beth Sydd Ynddo i Chi?**
- 33 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc, ynghyd â'r cyfle i brynu neu werthu hyd at 5 diwrnod o wyliau blynyddol bob blwyddyn
- 8% o bensiwn a gyfrannwyd gan y cwmni (ar gyfer eich cyfraniad o 3%)
- Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
- Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
- Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
- Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pry

More jobs from Wales Millennium Centre