Welsh Headings - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

3 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Gwasanaeth Cynghori Tai a Chymunedau.

Mae Gwasanaeth Cynghori'r Cyngor yn cynnwys y Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith, y tîm Datrysiadau Tai ac Atal, y tîm Cyngor Ariannol a'r Llinell Gymorth Cyngor a Thai. Gyda'i gilydd, mae'r timau yn darparu pecyn cyflawn o gymorth, gwybodaeth ac arweiniad ymarferol i drigolion Caerdydd.

**Am Y Swydd**
Bydd y rôl dros dro yn cynnal ymarfer mapio o'r ddarpariaeth bresennol sydd ar gael i bobl ifanc drwy wasanaethau'r Cyngor a gwasanaethau a gomisiynir gan y cyngor, yn benodol gwasanaethau digidol a lles; ynghyd â nodi materion y mae pobl ifanc yn eu hwynebu yn ceisio cael cymorth gan yr Awdurdod Lleol.

Gyda nifer o raglenni newydd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Incwm Sylfaenol Cyffredinol, Gwarant Pobl Ifanc a gwasanaethau pobl ifanc mewnol Cyngor Caerdydd, mae'n hanfodol bod gwaith paratoi yn cael ei wneud i sicrhau llwybr clir i bobl ifanc gael mynediad at wasanaethau mor rhwydd â phosibl, gan sicrhau bod cymorth yn cael ei roi'n brydlon. Bydd yr adolygiad yn rhoi trosolwg o'r gwasanaethau i Uwch Reolwyr, gan edrych yn fanwl ar fylchau / dyblygu yn y ddarpariaeth.

Bydd y rôl am uchafswm o 9 mis.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Gwybodaeth ardderchog am yr ystod eang o gymorth, cyngor ac arweiniad gyrfaol i bobl ifanc, gyda phrofiad amlwg.

Gwybodaeth ardderchog am y rhwystrau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth gael mynediad at wasanaethau awdurdod lleol a gwasanaethau eraill, gan gynnwys addysg, cyflogaeth, tai, cymorth cyllidebu.

Profiad o weithio mewn partneriaeth amlasiantaethol, gan gynnwys gwasanaethau Awdurdodau Lleol.

Y gallu i sefydlu perthnasoedd, cyfathrebu'n dda ag eraill, gweithio'n gydweithredol ar draws gwasanaethau a gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i sicrhau canlyniadau cadarnhaol.

Profiad amlwg o ddarparu dogfennau ac adroddiadau o ansawdd uchel, a'r gallu i gyflwyno i gynulleidfa eang.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Swydd dros dro yw hon tan 31/12/2023.

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio o nifer o leoliadau gwahanol, gan gynnwys Neuadd y Sir, Hyb y Llyfrgell Ganolog ac adeiladau eraill sy'n Hybiau Cymunedol.

Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02883

More jobs from Cardiff Council