Technegydd Therapi Galwedigaethol - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

2 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Tîm Cyd-Wasanaeth Offer (CWO) Caerdydd a'r Fro yn awyddus i gyflogi Technegydd Therapi Galwedigaethol wedi'i leoli yn ein warws, Unedau 2 a 3 Lambourne Crescent, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GF.

Mae tîm CWO y Cyngor yn rhoi offer i bobl yng Nghaerdydd a'r Fro. Rydym yn archebu, yn dosbarthu, yn casglu ac yn cynnal amrywiaeth eang o gymhorthion symud i helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain.
Mae offer yn cael ei archebu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, fel Nyrsys Ardal, Therapyddion Galwedigaethol a Ffisiotherapyddion ac yn cynnwys amrywiaeth eang o eitemau, o welyau arbenigol a theclynnau codi i offer ystafell ymolchi ac offer eistedd a cherdded a ddefnyddir gan blant mewn ysgolion.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n rhan o dîm i gynnig gwasanaeth o'r safon orau.

**Am Y Swydd**
Byddwch yn gyfrifol am gasglu, dosbarthu a gosod (yn ôl yr angen) offer a ddyluniwyd i gynorthwyo pobl ag anableddau yn eu cartrefi eu hunain. Bydd yn rhaid gweithio fel tîm o ddau i osod eitemau mwy (e.e. gwelyau proffilio a theclynnau codi). Ar ôl pob cais am ddosbarthu/gosod gan aelod tîm clinigol yn dilyn asesiad o anghenion y cleient, caiff archeb ddosbarthu ei phrosesu gan dîm gweinyddu'r CWO a chaiff yr offer ei gasglu, ei ddosbarthu a'i osod gan dîm mewnol y byddai'r swydd hon yn rhan ohono.

Sylwch fod y gwasanaeth hwn yn gweithredu o 8am tan 4pm o ddydd Llun i ddydd Iau ac o 8am tan 3:30pm ar ddydd Gwener.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae'r swydd yn un gorfforol a bydd angen i chi allu cyflawni ystod eang o weithgareddau codi a chario (codi, tynnu, gwthio ac ati).

Mae'r holl amserlenni gwaith yn cael eu rheoli gan ddefnyddio dyfeisiau llaw felly mae dealltwriaeth o dechnoleg/apiau symudol yn hanfodol. Bydd angen gweithredu faniau masnachol bach (dan 7.5T) yn rhan o'r swydd ac felly mae trwydded yrru lân yn hanfodol.

Byddwch yn dosbarthu at ac yn mynd i mewn i gartrefi preswylwyr sy'n agored i niwed ac mae gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) yn ofyniad hanfodol arall i'r swydd.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl ar ôl darllen y disgrifiad swydd, cysylltwch â Neal Hall - Rheolwr Gwasanaeth

Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra eich cais i'r rôl yn yr adran Gwybodaeth Ategol, gan nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol a restrir ar y Fanyleb Person. Dylech hefyd nodi sut rydych yn bodloni'r meini prawf dymunol gan y gallem ddefnyddio'r rhain i lunio'r rhestr fer os bydd nifer fawr o ymgeiswyr yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae adran Gwybodaeth Ategol y ffurflen gais ar-lein wedi'i chyfyngu i 4,000 o nodau - gallwch lanlwytho Gwybodaeth Ategol ychwanegol ond peidiwch â chyflwyno CV gan nad yw'n debygol o gynnig y wybodaeth sydd ei hangen. Darllenwch y canllaw ar sut i wneud cais.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy'n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy'n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Mae'r swydd hon yn destun Gwiriad Safonol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03008

More jobs from Cardiff Council