- Profiad o greu a chynhyrchu deunydd i wasanaeth newyddion a dealltwriaeth fanwl o ofynion platfformau digidol;
- Ymwybyddiaeth o dargedau Cymru Fyw a strategaethau twf digidol y BBC;
- Y gallu i ddarganfod a gweithio gyda gohebwyr ar straeon a'u cynhyrchu i safon uchel iawn gan arddangos crebwyll creadigol a gweledol;
- Y gallu i weithio yn annibynnol ond hefyd fel rhan o'r tîm i sicrhau deunydd o'r safon uchaf yn aml blatfform;
- Dealltwriaeth o blatfformau cymdeithasol a sut i gynhyrchu ac addasu straeon gan arddangos dealltwriaeth o anghenion y gynulleidfa;
- Gwybodaeth drylwyr a sicr am bolisïau golygyddol ac ymwybyddiaeth o'r ystyriaethau cyfreithiol;
- Y parodrwydd i wthio ffiniau o ran y dechnoleg a chynnal a chryfhau y berthynas gyda thîm Cylchgrawn Cymru Fyw.
-
Uwch Newyddiadurwr Digidol
3 weeks ago
S4C Cardiff, United KingdomMae S4C yn darparu gwasanaeth newyddion digidol sydd yn dod a'r newyddion diweddaraf i gynulleidfa Gymraeg o amrywiol ffynonellau. Y nod yw cyrraedd a gwasanaethu cynulleidfa iau na'r hyn sy'n gwylio Newyddion S4C ar deledu, er mwyn iddyn nhw fedru cael newyddion amrywiol yn y Gy ...
-
Uwch Newyddiadurwr
3 weeks ago
BBC Cardiff, United KingdomPecyn Swydd · Band : D · Cyflog : £37,845 - £44,913 y flwyddyn yn ddibynol ar sgiliau a phrofiad · Cytundeb : Tymor Penodol / Ymlyniad · Mae sgiliau yn yr Iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon / Welsh language skills are essential for this role · Cyflwyniad i'r Swydd ...
Uwch Newyddiadurwr - Cardiff, United Kingdom - BBC
Description
Pecyn SwyddBand : D
Cyflog : £37,845 - £44,913 y flwyddyn yn ddibynol ar sgiliau a phrofiad
Cytundeb : Tymor Penodol / Ymlyniad
Mae sgiliau yn yr Iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon / Welsh language skills are essential for this role
Cyflwyniad i'r Swydd
Bydd yr Uwch Newyddiadurwr yn rhan o dîm BBC Cymru Fyw.
Byddwch yn gyfrifol am arwain t î m o newyddiadurwyr ar yr Hafan, gyda phwyslais ar y cyfryngau cymdeithasol a fideos digidol.
Bydd gofyn i'r Uwch Newyddiadurwr arwain ar straeon gwreiddiol, gosod yr agenda newyddion a meddwl yn greadigol am gynnwys ar gyfer cynulleidfaoedd Cymraeg - yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd angen meddwl yn greadigol am driniaeth wahanol ar straeon a chyd-weithio yn agos a th î m Newyddion S4C a chriw newyddion Radio Cymru.
Byddwch angen arddangos dealltwriaeth o anghenion y gynulleidfa, yn ogystal â meddwl am ffyrdd o dargedu cynulleidfaoedd newydd, hyrwyddo amrywiaeth a sicrhau bod arlwy y penwythnos yn gryf ar yr Hafan a'r platfformau cymdeithasol.
Bydd deilydd y swydd yn arweinydd wrth reddf ac yn gallu cyhoeddi straeon a fideos ar ei liwt ei hun.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gyfrifol am d î m bach o newyddiadurwyr ac yn cynnig arweiniad cadarn i'r t î m. Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd arddangos sgiliau cynllunio heb eu hail a'r gallu i weithio'n annibynnol. Bydd disgwyl arweiniad clir mewn cyfarfodydd golygyddol yn ogystal â bod yn hyblyg ac yn agored i addasu cynnwys wrth i straeon ddatblygu.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn llwyr ymwybodol a chyda dealltwriaeth fanwl o bolis ï au golygyddol a chyfreithiol. Bydd hefyd yn arddangos dealltwriaeth o dechnoleg newydd ac yn arddel uchelgais i ddatblygu cynnwys creadigol ac arbrofol ar gyfer ein platfformau digidol.
Prif Gyfrifoldebau
Arwain criwiau cynhyrchu digidol.
Bod yn gyfrifol am d î m bach o newyddiadurwyr gan gynnal sgyrsiau cyson i sicrhau arweiniad a datblygiad aelodau staff.
Datblygu syniadau ar straeon lleol a chenedlaethol.
Datblygu straeon gwreiddiol Rhaglen Newyddion S4C, gan feddwl am ffyrdd o symud straeon ymlaen y diwrnod canlynol - gyda phwyslais arbennig ar greu cynnwys unigryw i Cymru Fyw.
Cydweithio gyda gweddill y t i mau ar draws yr ystafell newyddion i sicrhau rhaglenni o'r safon uchaf, a sicrhau fod deunydd ein gwasanaethau yn cael eu rhannu â gweddill yr adran yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Yr ymgeisydd delfrydol