Hyfforddwr Dysgu a Datblygu - Cardiff, United Kingdom - Cardiff and Vale College

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Swydd Wag Fewnol / Allanol**

**Teitl y Swydd**:Hyfforddwr Dysgu a Datblygu**

**Contract**:29.6 awr yr wythmos (0.8 FTE), Parhaol**

**Cyflog: £31,828 - £33,948 y flwyddyn (£25,462 - £27,158 pro rata)**

**Lleoliad: Caerdydd a'r Fro**

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn awyddus i benodi Hyfforddwr Dysgu a Datblygu wedi'i leoli ar ein Campws Canol y Ddinas ond gyda'r disgwyliad i gwmpasu campysau eraill yn ôl yr angen.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus y swyddi yn gyfrifol yn bennaf am gydlynu a chyflwyno rhaglenni Dysgu a Datblygu gyda sefydliadau partner, gan gynnwys Cyflogadwyedd, Gwasanaeth Cwsmer a Sgiliau Hanfodol.

Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys:

- Fel aelod allweddol o'r tîm Gwasanaethau Masnachol, bydd deilydd y swydd yn helpu i gyflawni dangosyddion perfformiad allweddol y tîm a dangosyddion perfformiad allweddol personol, a rhagori ar dargedau Ansawdd, Effeithlonrwydd a Thwf yn unol ag amcanion sefydliadol.
- Cynorthwyo'r tîm Datblygu Busnes wrth gynhyrchu busnes newydd drwy ryngweithio â darpar gleientiaid mewn cyfarfodydd, cynadleddau, a digwyddiadau pan fo'n briodol.
- Cynorthwyo â'r gwaith o gyflwyno calendr cwrs agored Masnachol y Coleg drwy gyfrannu at y gwaith o ddylunio, cyflwyno a hyrwyddo ein hystod eang o gyrsiau.
- Ymgysylltu â chwsmeriaid hen a newydd i feithrin a chynnal cysylltiadau a meddwl am ddatrysiadau sgiliau hanfodol newydd ar eu cyfer.
- Gweithio gyda thimau cwricwlwm a chyflwyniad masnachol i ddatblygu datrysiadau arloesol ar gyfer anghenion datblygu gweithlu corfforaethol - gan ddod o hyd i'r datrysiad cywir ar gyfer y cleient, am bris sy'n adlewyrchu ein cymorth a gwerthoedd a brand CAVC.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar gymhwyster addysgu llawn (dymunol), wedi'i addysgu hyd at gymhwyster Lefel 3 neu uwch, ac mae cymhwyster asesu fel TAQA L3 neu gyfwerth hefyd yn ddymunol, neu barodrwydd i weithio tuag at un.

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a'r broses asesu yn y Gymraeg.

**Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw 12pm ar 03/04/23**

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

Bdd eich cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a'r Fro hefyd yn ddibynnol ar wiriadau geirdaon addas. Cyn i chi allu dechrau eich cyflogaeth, rhaid i Goleg Caerdydd a'r Fro gael dau eirda, un gan eich cyflogwr presennol neu gyflogwr mwyaf diweddar. Byddwn yn cysylltu â'ch canolwyr ar eich penodiad.

Mae cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru (CGA Cymru) yn ofyniad gorfodol ar gyfer y swydd

**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.

More jobs from Cardiff and Vale College