Swyddog Llety - Cardiff, United Kingdom - Cardiff and Vale College

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Swydd Wag Fewnol / Allanol**

**Cyf**:12027**

**Teitl y Swydd**:Swyddog Llety CAVC**

**Contract: Rhan amser 0.4 Cyfwerth â Llawn Amser, Contract Cyfnod Penodol tan 31 Rhagfyr 2023**

**Oriau: 14.8 awr yr wythnos**

**Cyflog: £21,030 per annum (pro rata)**

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Swyddog Llety o fewn yr adran Ryngwladol yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Bydd y swydd hon wedi'i lleoli ar Gampws Canol y Ddinas.

Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys:

- Cynorthwyo'r strategaeth a darpariaeth llety, a chynghori arni.
- Gweithio fel rhan o dîm sy'n perfformio'n arbennig o dda, a chyfrannu at y tîm hwnnw.
- Cyflwyno gwasanaeth o'r radd flaenaf i fyfyrwyr rhyngwladol, cydweithwyr a myfyrwyr a rhanddeiliaid eraill.
- Cynorthwyo gyda'r gwaith o reoli problemau a chwynion yn effeithlon ac effeithiol gyda chymorth y tîm ehangach ac ymateb i fyfyrwyr yn brydlon
- Cyflawni dyletswyddau eraill sydd efallai'n ofynnol o fewn y swydd.
- Y gallu i yrru eich car eich hun fel sy'n briodol i ymweld â llety
- Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol, ond byddai'n ddymunol ar gyfer y swydd hon

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a'r broses asesu yn y Gymraeg.

**Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw 24/03/2023 a 12:00**

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

More jobs from Cardiff and Vale College