Rheolwr Systemau Gwybodaeth - Cardiff, United Kingdom - Cardiff and Vale College

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Swydd Wag Fewnol / Allanol**

**Teitl y Swydd: Rheolwr Systemau Gwybodaeth (RP110523)**

**Contract: Parhaol, llawn amser, efallai bydd gofyn ichi weithio gyda'r nos ac ar benwythnosau.**

**Cyflog: £37,806 - £39,921 y flwyddyn**

**Lleoliad: Caerdydd a'r Fro**

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn awyddus i benodi Rheolwr Systemau Gwybodaeth wedi'i leoli ar ein Campws Canol y Ddinas, ond bydd disgwyl iddo weithio ar gampysau eraill yn ôl yr angen.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am arwain a rheoli timau Systemau Gwybodaeth y Coleg a holl agwedd ar systemau gwybodaeth y Coleg, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r system cofnodion myfyrwyr EBS. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn cynnig cyngor a chymorth rhagweithiol, o safon, i gydweithwyr ledled y Coleg, wrth sicrhau cydymffurfiaeth â'r holl ofynion rheoliadol a deddfwriaethol perthnasol.

Bydd gan ddeiliad y swydd brofiad amlwg o reoli systemau gwybodaeth mewn lleoliad addysg, a chefndir addysgol cadarn. Bydd yn meddu ar brofiad o ddatblygu ac ymgorffori mentrau newydd a gwella'r prosesau a systemau gwybodaeth, yn ogystal â meddu ar sgiliau rhyngbersonol a dadansoddi rhagorol.

Mae rhagor o fanylion, ynghyd â'r fanyleb person, ar gael yn y Swydd Ddisgrifiad.

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Ni dderbynnir ceisiadau CV.

**Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw dydd 09/06/2023 at 12:00PM.**

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

Bydd eich cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a'r Fro hefyd yn ddibynnol ar wiriadau geirdaon addas. Cyn i chi allu dechrau eich cyflogaeth, rhaid i Goleg Caerdydd a'r Fro gael dau eirda, un gan eich cyflogwr presennol neu gyflogwr mwyaf diweddar. Byddwn yn cysylltu â'ch canolwyr ar eich penodiad.

Mae cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru (CGA Cymru) yn ofyniad gorfodol ar gyfer y swydd

**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.**

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun hyderus o ran anabledd.

More jobs from Cardiff and Vale College