Goruchwyliwr Gweithwyr Chwarae- Evenlode Primary - Barry, United Kingdom - Vale of Glamorgan Council

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Amdanom ni**
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer y swydd Goruchwyliwr Gweithiwr Chwarae i weithio yn ein Clwb y Tu Allan i'r Ysgol, sydd wedi'i leoli yn Ysgol Gynradd Evenlode. Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â thîm uchel ei barch sy'n darparu gofal plant o ansawdd uchel.

**Am y Rôl**
Cyfeirnod y swydd (i'w ddefnyddio ar y ffurflen gais): PSL3-EPS-PERM

Manylion am gyflog: Gradd 5, PCG 8 £20,493 y.f. pro rata

Diwrnodau / Oriau Gwaith: Dydd Llun i ddydd Gwener

Sesiwn ar ôl ysgol 3.30pm - 6.00pm
Cyfanswm yr oriau yw 15 awr yr wythnos

Parhaol

**Disgrifiad**:
Rydym yn awyddus i recriwtio person llawn egni, brwdfrydig a gofalgar i ymuno â'n tîm gofal plant i ddarparu gweithgareddau chwarae cynhwysol mewn ffordd ddiogel, effeithiol a llawn hwyl.

Mae angen i chi fod â'r awydd i gefnogi plant o bob gallu yn y lleoliad chwarae. Gan weithio fel rhan o dîm byddwch yn cymryd rhan yn y gwaith o gynllunio a darparu cyfleoedd chwarae difyr a chreadigol i blant 4 oed i 11 oed. Byddwch yn helpu i gwblhau dogfennau fel asesiadau risg a chofrestri presenoldeb dyddiol. Byddwch hefyd yn gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o redeg ein sesiynau gwyliau o ddydd i ddydd.

**Amdanat ti**

Oes angen gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd?: Manwl

Bydd angen addysg o safon dda arnoch i TGAU ynghyd â chymhwyster Lefel 3 perthnasol mewn Gwaith Chwarae, neu gymhwyster gofal plant cysylltiedig cyfatebol fel y nodir ar y Fframwaith Sgiliau Actif (neu ymrestriad cyfredol ar gwrs Gwaith Chwarae Lefel 3 i'w gwblhau o fewn 12 mis).

Mae dealltwriaeth o bwysigrwydd chwarae a gwaith chwarae i blant yn ddymunol gyda dawn ar gyfer trefnu gweithgareddau hwyliog. Byddai angen i ymgeiswyr fod yn barod i ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant perthnasol a datblygiad proffesiynol parhaus.

**Sut i wneud cais**

Job Reference: SCH00485

More jobs from Vale of Glamorgan Council