Swyddog Gwasanaethau Cymdogaeth - Barry, United Kingdom - Vale of Glamorgan Council

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Amdanom ni**
Mae'r Tîm Gorfodi Tai yn gyfrifol am gynnal safonau tai, yn enwedig yn y sector rhentu preifat. Mae'r tîm yn delio â chwynion gan denantiaid am eu llety byw ac mae'n canolbwyntio'n benodol ar drwyddedu Tai Amlfeddiannaeth. Yn ogystal, mae dyletswyddau'n ymwneud â niwsans statudol, safleoedd aflan ac lle mae plâu ac eiddo gwag sy'n achosi problemau.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Tâl: Gradd 9 £37,261 i £41,496 y flwyddyn

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener

Prif Weithle: Neuadd y Sir Caerdydd,

Rheswm dros gynnig swydd dros dro: Mae'r Swydd tan 31 Mawrth 2024 dros dro, wedyn bydd y cynllid yn cael eu adolygu.

**Disgrifiad**:
Bydd deiliad y swydd yn cyflawni ystod eang o ddyletswyddau Iechyd yr Amgylchedd mewn perthynas â thai. Byddwch yn ymchwilio i gwynion am safonau gwael o ran llety a byddwch yn cynnal archwiliadau tai. Byddwch yn llunio rhestrau gwaith ac yn cyflwyno hysbysiadau cyfreithiol, gan gynnal ymweliadau cydymffurfio er mwyn sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau. Byddwch yn cynnal archwiliadau trwyddedu ar gyfer tai amlfeddiannaeth (TA) a byddwch yn gorfodi gofynion trwyddedu TA. Byddwch yn cysylltu â thenantiaid, cymdogion, landlordiaid a chontractwyr i sicrhau bod safonau eiddo'n cael eu cynnal.

**Amdanat ti** Bydd angen**:

- Profiad o gynnal arolygiadau, ymchwiliadau ac archwiliadau cymhleth.
- Dealltwriaeth glir o'r materion proses gyfreithiol sy'n effeithio ar gyflawni gwasanaethau rheoleiddiol
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol gyda phobl ym mhob lefel yn y sefydliad a gyda busnesau ac aelodau'r cyhoedd
- Y gallu i fodloni terfynau amser a blaenoriaethu gwaith
- Y gallu i feithrin partneriaethau, gweithio'n gydweithredol ar draws ffiniau a chyflawni perfformiad a chanlyniadau trwy eraill
- Cymhwyster proffesiynol (gradd neu gyfwerth yn un o'r prif ddisgyblaethau gwasanaeth)

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Oes angen Gwiriad GDG? Nac oes

Gweler y disgrifiad swydd/fanyleb person atodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: EHS00477

More jobs from Vale of Glamorgan Council