Swyddog Cyllid Masnachfraint - Cardiff, United Kingdom - Cardiff and Vale College

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Swydd Wag Fewnol / Allanol**

**Cyf**:12036**

**Teitl y Swydd**:Swyddog Cyllid Masnachfraint**

**Contract: Cyfnod Penodol tan Gorffennaf 2024, Llawn Amser**

**Oriau: 37 yr wythnos**

**Cyflog: £28,648 - £30,599 pro rata**

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Swyddog Cyllid Masnachfraint o fewn adran MIS Coleg Caerdydd a'r Fro. Bydd y swydd hon wedi'i lleoli yn Un Parêd y Gamlas.

Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys:

- Cefnogi'r gwaith o fonitro holl incwm a rhagolygon cyllid Masnachfraint a sicrhau eu bod yn parhau o fewn targedau penodol.
- Cefnogi'r gwaith o adrodd a dadansoddi data i lywio enillion tymhorol i Lywodraeth Cymru a helpu i lywio'r gwaith o gynllunio'r cwricwlwm yn y dyfodol.
- Goruchwylio a sefydlu'r cyrsiau Masnachfraint ledled y coleg a'r rhwydwaith is-gontract ehangach.
- Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt mewn perthynas â sefydlu cyrsiau Masnachfraint.
- Sicrhau bod yr anfonebau Masnachfraint yn gywir:

- Cynnal taenlenni incwm ar gyfer pob masnachfraint
- Sicrhau bod gwerthoedd cyllid yn gywir
- Diweddaru a monitro'r holl niferoedd myfyrwyr sy'n tynnu'n ôl, sy'n trosglwyddo ac sy'n cwblhau eu hastudiaethau
- Gweithio gyda'r Swyddog Ansawdd Masnachfraint er mwyn sicrhau:

- Bod gwerthoedd cyllid SLA yn gywir ac yn cael eu diweddaru yn ôl yr angen
- Bod y data sy'n cael ei gyflwyno mewn cyfarfodydd Masnachfraint tymhorol yn gywir a'n gyfredol
- Mynychu cyfarfodydd Masnachfraint tymhorol
- Monitro ac adrodd ar y canlynol i'w cyflwyno i Uwch Reolwyr a'r Weithrediaeth:

- Rhifau ymrestru
- Dysgwyr sy'n tynnu'n ôl
- Cyflawniadau
- Gwerthoedd cyllid a dadansoddi data.
- Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol, ond byddai'n ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a'r broses asesu yn y Gymraeg.

**Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw 03/03/2023 yr 12:00pm.**

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.**

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun hyderus o ran anabledd.

More jobs from Cardiff and Vale College