Swyddog Ymgysylltu Cymunedol - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

3 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r tîm Cyfleoedd Dydd yn cefnogi pobl hŷn ac oedolion sy'n byw gyda namau corfforol i gysylltu â'u cymuned leol lle gallent fod wedi'u hynysu'n gymdeithasol.
**Am Y Swydd**
Bydd y tîm yn defnyddio sgiliau cyfweld ysgogiadol i weithio gyda phobl hŷn ac oedolion â namau corfforol, sydd wedi mynd yn ynysig yn gymdeithasol, gan helpu i ddod o hyd i atebion cynaliadwy hirdymor i'r rhwystrau sy'n eu hatal rhag cael mynediad i'r gymuned.

Cyflwyno defnyddwyr gwasanaeth i grwpiau newydd, helpu gyda phroblemau trafnidiaeth a rhoi cyngor ar deithio yn eu hardal wrth fyw gyda namau corfforol. I'r cleientiaid hynny sy'n methu gadael y cartref, gall y tîm gefnogi gyda chysylltedd digidol, gan helpu i sicrhau cynhwysiant digidol trwy ddangos sut i ddefnyddio offer ac ennill sgiliau sylfaenol i gysylltu â grwpiau ar-lein.

Bydd gennych eich llwyth achosion eich hun a chyfrifoldeb dros asesu, cefnogi, ymchwilio i leoliadau a galluogi pobl i gyflawni canlyniadau y cytunir arnynt.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydyn ni'n chwilio am berson arloesol a medrus a all ddefnyddio menter ac sydd â sgiliau rhyngbersonol da i ymuno â'n tîm.

Bydd angen i chi ddangos eich bod yn gallu ymateb yn sensitif i anghenion gofal corfforol a phersonol unigolyn yn ogystal â bod ag agwedd gadarnhaol gyda sgiliau cyfathrebu cryf.

Bydd angen trwydded yrru lawn a dilys arnoch, a'r defnydd o gar yn ddyddiol at ddibenion busnes.
**Gwybodaeth Ychwanegol**

Mae 2 swydd ar gael, ac mae'r ddwy yn addas ar gyfer rhannu swydd.

Swyddi dros dro yw'r rhain tan 31 Mawrth 2025.

Mae'r swyddi hyn yn destun Gwiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol, y Prif Swyddog neu'r Uwch Swyddog enwebedig perthnasol, sydd ar radd nad yw'n is na RhG2, neu yn achos staff ysgolion, y Pennaeth neu'r Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Sylwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd

Job Reference: PEO03916

More jobs from Cardiff Council